CYFLEOEDD

 

Cadwch lygad am ein cyfleoedd presennol.

 

Trwy ein gwahanol brosiectau, arddangosfeydd, a’n rhaglen ddysgu, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd trwy gydol y flwyddyn, o alwadau agored, comisiynau a gweithdai creadigol, i wirfoddoli a swyddi yn ein tîm.

YMUNWCH Â’N BWRDD

 

Mae Llantarnam Grange yn chwilio am ddau ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n bwrdd. Rydyn ni’n chwilio am bobl a all gynnig eu sgiliau, eu profiadau a’u brwdfrydedd i arwain ein sefydliad fel y ganolfan gelfyddydau ranbarthol ar gyfer crefftau a chelfyddydau gweledol yn y de ddwyrain. Os ydych chi’n angerddol am ein gwaith gyda gwneuthurwyr, artistiaid, pobl ifanc, ein cymuned leol, a’n cynulleidfaoedd ehangach, ac os ydych am wneud gwahaniaeth i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru, bydden ni’n falch o glywed gennych chi.

 

Rydyn ni’n chwilio’n arbennig am bobl sydd â phrofiad o ailddatblygiadau cyfalaf, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad o adeiladau cynaliadwy; pobl sydd â phrofiad o fanwerthu / gweithrediadau masnachol; a phobl sy’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf neu’n ddysgwyr Cymraeg uwch a/neu sydd â phrofiad o weithio’n ddwyieithog.

 

SUT I WNEUD CAIS

 

Cyflwynwch eich CV, llythyr eglurhaol, a’r ffurflen fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth sydd ar gael drwy glicio ar y ddolen hon i Steph Burge, Cadeirydd, drwy [email protected] neu drwy’r post i Steph Burge, Cadeirydd, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Heol Dewi Sant, Cwmbrân, Torfaen, NP44 1PD

 

Darllenwch ein Pecyn Cais cyn ymgeisio:

 

Ffurflen Gais yn Gymraeg
Application Pack English

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 10yb dydd Llun 15 Ionawr 2024

 

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol gyfrinachol am ddod yn ymddiriedolwr, cysylltwch â Steph Burge, ein Cadeirydd, drwy [email protected]

GWIRFODDOLWR – BLAEN TŶ

 

Rydym yn chwilio am berson cyfeillgar i helpu ein tîm bach drwy ddarparu cymorth blaen tŷ gwirfoddol yn Llantarnam Grange.

 

Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu cyflenwi un bore neu brynhawn yr wythnos, gyda’r posibilrwydd o gynyddu hyn gydag amser a chynnig mwy o hyblygrwydd os oes angen.

 

Rôl:

 

– Croesawu cwsmeriaid/ymwelwyr i’r ganolfan
– Ateb galwadau ffôn a derbyn negeseuon/ymholiadau a’u trosglwyddo i’r staff perthnasol
– Helpu cwsmeriaid gyda phryniannau o’r siop
– Prosesu taliadau drwy’r til
– Prisio/arddangos stoc yn y siop
– Cynnal y cyntedd/orielau/siop
– Helpu staff gyda thasgau gweinyddu o bryd i’w gilydd

 

Buddion:

 

– Disgownt yn y siop, orielau a’r caffi
– Darperir hyfforddiant mewnol
– Cyfleoedd ar gyfer hyfforddi a datblygu arall
– Profiad o wirfoddoli mewn amgylchedd creadigol gyda thîm cyfeillgar o bobl
– Geirdaon ar gais

 

Os oes diddordeb gennych yn y swydd wirfoddoli hon, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom yn [email protected] neu rhowch alwad i ni ar 01633 483321

 

Lle bo’n briodol, gallwn drefnu sgwrs anffurfiol, mewn person neu dros y ffôn, gyda’n Cydlynydd Gwirfoddoli.

GWIRFODDOLWR – GARDDIOG

 

Rydym yn chwilio am arddwyr brwd i’n helpu i gynnal a datblygu ein gardd flaen. Mae hon yn cynnwys gwelyau uchel a osodwyd fis Hydref diwethaf.

 

Ein gweledigaeth yw cwblhau ein hadeilad Fictoraidd hardd gyda gardd liwgar sy’n gyfeillgar i bryfed ac adar. Rydym eisiau creu ymdeimlad o heddwch a llesiant i’w fwynhau gan ymwelwyr i’r oriel, cwsmeriaid sy’n cael cinio yn ein Caffi, pobl yn mynd heibio, a’n holl beillyddion lleol!

 

Rôl:

 

– Cynnal ein gardd flaen sy’n cynnwys gwelyau uchel ynghyd â phlannu ar y ddaear. Bydd hyn yn cynnwys chwynnu, plannu tymhorol a chasglu sbwriel.
– Helpu i glirio chwyn a gordyfiant y tu ôl i’n hadeilad i ddarparu mynediad diogel o’n hallanfa dân drws cefn.
– Mae rhywfaint o wybodaeth am arddio yn ddymunol

 

Buddion:

 

– Disgownt yn yr orielau/siop grefftau/caffi
– Darperir yr holl offer yn cynnwys menig, offer plannu a’r llawlyfrau Garden Wildlife a British Birds
– Bod yn rhan o dîm o bobl gyfeillgar a chynhwysol
– Amser hyblyg i’ch siwtio chi
– Geirdaon ar gais

 

Os oes diddordeb gennych yn y swydd wirfoddoli hon, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom yn [email protected] neu rhowch alwad i ni ar 01633 483321

 

Lle bo’n briodol, gallwn drefnu sgwrs anffurfiol, mewn person neu dros y ffôn, gyda’n Cydlynydd Gwirfoddoli.

Newyddion diweddaraf Llantarnam Grange

I gael cynigion arbennig, gwahoddiadau a diweddariadau

YMUNWCH Â’N
RHESTR BOSTIO

Mailing List Homepage-cy