BSL Theith: Sbectrwm o’r Golwg

BSL THEITH
8 AWST, 1YP

 

Mae gennym un daith BSL arall ar gyfer yr arddangosfa Sbectrwm o’r Golwg gan Bridie Doyle-Roberts

Ddydd Sadwrn 8 Awst, 1-2yp

 

Man cyfarfod:
Yn y cyntedd ger y dderbynfa

 

Mae Sbectrwm o’r Golwg yn osodiad celf theatraidd ymgolli a grëwyd gan y perfformiwr a’r artist Bridie Doyle-Roberts sy’n camu i fyd ansicr gan fod dallineb yn dynesu.

 

Ar ôl iddi ddarganfod bod ganddi gyflwr llygaid dirywiol, mae Bridie wedi defnyddio’i phrofiad i greu dodrefn, barddoniaeth a sainluniau sy’n archwilio sut rydym yn gweld, beth ydyn ni’n ei weld, a sut mae’n teimlo pan fod y byd gweledol yn ymgolli yn y tywyllwch.

 

I gael gwybod mwy yma.

 

Os hoffech gael gwybod mwy ynglŷn â’n hadeilad a mynediad, i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad, gweler ein gwybodaeth i ymwelwyr a’n Canllaw Mynediad.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bost yn hello@llantarnamgrange.com neu ffoniwch 01633 483321.