CAFFI LLANTARNAM GRANGE

 

Croeso i Gaffi Llantarnam Grange , man hyfryd gyda chynnyrch lleol sy’n gweini clasuron cartrefol a bwydlenni arbennig drwy’r flwyddyn

Mae croeso cynnes bob amser, ac rydyn ni wastad yn barod i gynnig rhywbeth ychwanegol i’ch ymweliad â Llantarnam Grange. Angen eich coffi boreol? Rydyn ni yma i chi. Sleisen o gacen i’w rhannu (neu beidio!)? Dim problem. Powlenaid swmpus o rywbeth yn barod am brynhawn trwm? Hapus i helpu.

 

Os oes gennych gwestiynau am ein cynhyrchion neu’n cyfleusterau, edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â ni yma

Mae ein bwydlen i’w gweld yma