CYFLEOEDD
Cadwch lygad am ein cyfleoedd presennol.
Trwy ein gwahanol brosiectau, arddangosfeydd, a’n rhaglen ddysgu, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd trwy gydol y flwyddyn, o alwadau agored, comisiynau a gweithdai creadigol, i wirfoddoli a swyddi yn ein tîm.
PORTAL 2022: GALWAD AGORED
Mae Llantarnam Grange yn chwilio am leisiau newydd mewn celf a chrefft gyfoes i arddangos yn ein sioe flynyddol i raddedigion, Portal. Os ydych wedi graddio ar unrhyw gwrs celfyddyd gymhwysol neu weledol mewn prifysgol yn y DU yn 2022, yna rydych yn gymwys i ymgeisio.
Dyddiau cau: 9am Ddydd Llun 18 Gorffennaf 2022
Llenwch ein cais ar-lein yma.