BOGLYNU FFOIL + ADDURNO
27 HYDREF, 10YB-12YP a 1-3YB
Rhowch gynnig ar foglynnu ffoil a thrin cymysgedd eclectig o ddeunyddiau lliwgar ar ddydd Mawrth 27 Hydref, 10-12pm ac 1-3pm. Cewch gyfle i greu ac addurno eich calon gysegredig, sef symbol hardd a lliwgar o gelf werin Mecsico.
Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid i blant fod dros 5 oed ac yng nghwmni oedolyn.
Mae’r gweithgaredd hwn yn gyfle i blant ac oedolion fod yn greadigol gyda’i gilydd gan fydd yr oedolion yng nghwmni’r plant yn cymryd rhan hefyd.
Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, fellly dewiswch un slot wrth fwcio.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Bwciwch le drwy Eventbrite yma.
Pris y pen: £5 + ffi bwcio.
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.
