CYFLEOEDD

 

Cadwch lygad am ein cyfleoedd presennol.

 

Trwy ein gwahanol brosiectau, arddangosfeydd, a’n rhaglen ddysgu, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd trwy gydol y flwyddyn, o alwadau agored, comisiynau a gweithdai creadigol, i wirfoddoli a swyddi yn ein tîm.

GALWAD AM GELF YN NHORFAEN!

 

Mae Llantarnam Grange yn estyn gwahoddiad i artistiaid sy’n byw yn Nhorfaen i gyflwyno gwaith ar gyfer arddangosfa agored yn ein caffi i ddathlu 75 mlwyddiant Cwmbrân. Cynhelir yr arddangosfa rhwng 18 Mai a 10 Awst 2024. Bydd yr arddangosfa yn agor ddydd Sadwrn 18 Mai, 12-2pm Nid oes ffi fynediad, thema, na chyfyngiadau o ran oedran, gallu, neu brofiad.

 

CYMHWYSEDD

 

– Rhaid bod yr artistiaid yn byw yn Nhorfaen
– Rhaid bod y gwaith mewn 2D, a heb fod yn fwy nag A3 (29.7cm x 42cm), a heb fod yn ddyfnach na 15cm
– Rhai bod modd hongian y gwaith ar wal

 

I GYFLWYNO MAE’N RHAID I CHI:

 

– Ddarllen y Canllawiau
– Llenwi’r ffurflen gais
– Gallu cyflwyno eich gwaith ddydd Gwener 3 neu ddydd Sadwrn 4 Mai, rhwng 9.30am – 3.30pm

 

Darllenwch y Canllawiau llawn yma

Gwnewch gais yma

 

Gobeithiwn ddangos cymaint o’r celfwaith ag y gallwn, ond peidiwch ag oedi gan fod y lle yn gyfyngedig!

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn [email protected] com neu ffoniwch ni ar 01633 483321

 

Edrychwn ymlaen at weld eich gwaith!

GWIRFODDOLWR – BLAEN TŶ

 

Rydym yn chwilio am berson cyfeillgar i helpu ein tîm bach drwy ddarparu cymorth blaen tŷ gwirfoddol yn Llantarnam Grange.

 

Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu cyflenwi un bore neu brynhawn yr wythnos, gyda’r posibilrwydd o gynyddu hyn gydag amser a chynnig mwy o hyblygrwydd os oes angen.

 

Rôl:

 

– Croesawu cwsmeriaid/ymwelwyr i’r ganolfan
– Ateb galwadau ffôn a derbyn negeseuon/ymholiadau a’u trosglwyddo i’r staff perthnasol
– Helpu cwsmeriaid gyda phryniannau o’r siop
– Prosesu taliadau drwy’r til
– Prisio/arddangos stoc yn y siop
– Cynnal y cyntedd/orielau/siop
– Helpu staff gyda thasgau gweinyddu o bryd i’w gilydd

 

Buddion:

 

– Disgownt yn y siop, orielau a’r caffi
– Darperir hyfforddiant mewnol
– Cyfleoedd ar gyfer hyfforddi a datblygu arall
– Profiad o wirfoddoli mewn amgylchedd creadigol gyda thîm cyfeillgar o bobl
– Geirdaon ar gais

 

Os oes diddordeb gennych yn y swydd wirfoddoli hon, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom yn [email protected] neu rhowch alwad i ni ar 01633 483321

 

Lle bo’n briodol, gallwn drefnu sgwrs anffurfiol, mewn person neu dros y ffôn, gyda’n Cydlynydd Gwirfoddoli.

GWIRFODDOLWR – GARDDIOG

 

Rydym yn chwilio am arddwyr brwd i’n helpu i gynnal a datblygu ein gardd flaen. Mae hon yn cynnwys gwelyau uchel a osodwyd fis Hydref diwethaf.

 

Ein gweledigaeth yw cwblhau ein hadeilad Fictoraidd hardd gyda gardd liwgar sy’n gyfeillgar i bryfed ac adar. Rydym eisiau creu ymdeimlad o heddwch a llesiant i’w fwynhau gan ymwelwyr i’r oriel, cwsmeriaid sy’n cael cinio yn ein Caffi, pobl yn mynd heibio, a’n holl beillyddion lleol!

 

Rôl:

 

– Cynnal ein gardd flaen sy’n cynnwys gwelyau uchel ynghyd â phlannu ar y ddaear. Bydd hyn yn cynnwys chwynnu, plannu tymhorol a chasglu sbwriel.
– Helpu i glirio chwyn a gordyfiant y tu ôl i’n hadeilad i ddarparu mynediad diogel o’n hallanfa dân drws cefn.
– Mae rhywfaint o wybodaeth am arddio yn ddymunol

 

Buddion:

 

– Disgownt yn yr orielau/siop grefftau/caffi
– Darperir yr holl offer yn cynnwys menig, offer plannu a’r llawlyfrau Garden Wildlife a British Birds
– Bod yn rhan o dîm o bobl gyfeillgar a chynhwysol
– Amser hyblyg i’ch siwtio chi
– Geirdaon ar gais

 

Os oes diddordeb gennych yn y swydd wirfoddoli hon, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom yn [email protected] neu rhowch alwad i ni ar 01633 483321

 

Lle bo’n briodol, gallwn drefnu sgwrs anffurfiol, mewn person neu dros y ffôn, gyda’n Cydlynydd Gwirfoddoli.

Newyddion diweddaraf Llantarnam Grange

I gael cynigion arbennig, gwahoddiadau a diweddariadau

YMUNWCH Â’N
RHESTR BOSTIO

Mailing List Homepage-cy