CRIW CELF

Mae Criw Celf wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau artistig, gan weithio y tu allan i amgylchedd yr ysgol, a gydag artistiaid proffesiynol mewn amrywiol leoliadau gwahanol.

 

Mae Criw Celf yn rhoi cyfle i artistiaid a dylunwyr ifanc uchelgeisiol dreulio amser gyda’u cyfoedion a gydag artistiaid proffesiynol sy’n gweithio yn y sector, i ddatblygu a meithrin eu talent.

Yn Llantarnam Grange rydym yn trefnu rhaglenni gwahanol trwy’r flwyddyn ar gyfer disgyblion Cynradd, Uwchradd, Portffolio a Chodi’r Bar i bobl ifanc ym mlynyddoedd ysgol 5-13.

 

Trwy hyn, ein gobaith yw maethu creadigrwydd a rhoi blas o’r hyn y gallai celf, crefft a dylunio fod mewn addysg bellach.

 

Bob blwyddyn rydym yn gweithio gyda’r cyfranogwyr i drefnu arddangosfa o beth o’u gwaith. Mae hon yn dathlu eu llwyddiannau ac yn helpu i fagu hyder, gan fod eu gwaith yn cael ei arddangos ar y cyd ag artistiaid a gwneuthurwyr proffesiynol.

RHAGLEN BRESENNOL

 

2022-23

 

Dechreuodd ein sesiynau Cynradd ac Uwchradd ym mis Ionawr 2023. Mae artistiaid eleni yn cynnwys y gwneuthurwr printiau ffigurol Keith Bayliss, y darlunydd Jack Skivens, yr artist tecstilau a chyfryngau cymysg Sasha Kingston, yr artist celfyddyd gain Anna Barratt, yr artist a’r ymchwilydd Adeola Dewis, yr animeiddiwr Jim Parkyn, yr artist darlunio a sain Geraint Ross-Evans, a’r artist/addysgwr Becky Lewis.

 

Cofrestrwch ar ein rhaglen haf Criw Celf.

Gweithdy gwneud printiau gyda Keith Bayliss

RHAGLENNI BLAENOROL

 

2021-22

 

Yn y flwyddyn hon, gweithiodd y grwpiau Cynradd a’r Uwchradd gyda’r gemydd Anna Lewis, yr artist tecstilau Karen O’Shea, yr artist papur Mari Wirth a’r artist miniaturau Abi Trotman. Gweithiom hefyd gyda’r gwneuthurwr ffilmiau a’r ysgrifennwr Tom Cardew Cardew yn ystod wythnos o weithdai digidol ar y thema Newid Hinsawdd.

 

Arweiniwyd y sesiynau Portffolio a Chodi’r Bar gan yr animeiddiwr Jim Parkyn, yr artist tecstilau Sam Hussain, a’r artist cyfryngau cymysg Julia Brzozowska. Rhoddodd y gweithgareddau hyn ystyriaeth i botensial celf fel cyfrwng ar gyfer lles.

2020-21

 

Roedd y flwyddyn hon yn cynnwys rhaglen gymysg o sesiynau ar-lein ac mewn person. Roedd y sesiynau Cynradd ac Uwchradd yn cynnwys gweithdai digidol, dan arweiniad yr artist tecstilau a chyfryngau cymysg Naz Syed, y gwehydd a’r artist tecstilau Laura Thomas, yr artist tecstilau Elaine Webb, yr artist cyfryngau cymysg Bethan Morris, a’r brodiwr a’r artist tecstilau Rhiannon Williams.

 

Dechreuodd y sesiynau mewn person ym mis Mai 2021 gyda’r ffotograffwyr Savanna Dumelow a Faye Lavery-Griffiths yn arwain sesiynau mewn ymateb i’n harddangosfa Ode to Anna gyda Phrame Collective.

 

Cynhaliwyd y sesiynau Portffolio a Chodi’r Bar mewn person, gan gynnwys: gweithio gyda’r ceramegydd Paul Wearing, ffotograffiaeth a chyfryngau cymysg gyda Lauren Heckler, gweithdai gwneud marciau gyda Stephanie Roberts, gwneud collage a diorama gyda Kate Mercer, a ffurfiau cerameg gyda Billy Adams.

2019-20

 

Roedd rhaglen eleni yn gymysgedd o sesiynau mewn person ac ar-lein, mewn ymateb i gyfyngiadau’r pandemig o fis Mawrth 2020. Roedd y sesiynau mewn person Cynradd ac Uwchradd yn cynnwys gwaith yr artist cyfryngau cymysg Steph Roberts, y gwneuthurwr printiau Michael Goode, yr animeiddiwr Darren Lathem, y gemydd Karen Dell’Armi, y gwehydd helyg Sarah Hatton, yr artist tecstilau Beth Morris, a’r bardd a’r argraffydd Francesca Kay.

 

Yn y rhaglen Portffolio a Chodi’r Bar, cymerodd y cyfranogwyr ran mewn gweithgareddau digidol, yn cynnwys fideos gan y ceramegydd Billy Adams, gemwaith papur gydag Anna Lewis, a gweithdy zoom byw gyda’r artist Gail Howard.

2018-19

 

Yn y flwyddyn hon, sefydlwyd Criw Celf ar ei ffurf bresennol. Dechreuom drwy gydweithio gyda PEAK Cymru gan mai dyma’r tro cyntaf i ni weithio gyda phobl ifanc ym mlynyddoedd 10-13.

 

Roedd y rhaglen Gynradd ac Uwchradd yn cynnwys sesiynau gwneud printiau a llestri ceramig gydag Anne Gibbs, ffeltio â nodwydd gyda Becky Lewis, a sesiynau ffotograffiaeth gyda’r gwneuthurwr ffilmiau, Siôn Marshall Waters.

 

Roedd y rhaglen Portffolio a Chodi’r Bar yn cynnwys gweithdy Golau a Thaflunio gyda’r artist Simon Fenoulhet ac ymweliadau ag Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Bryste.

Ffilmiau gan Siôn Marshall Waters