CYFLEOEDD
Cadwch lygad am ein cyfleoedd presennol.
Trwy ein gwahanol brosiectau, arddangosfeydd, a’n rhaglen ddysgu, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd trwy gydol y flwyddyn, o alwadau agored, comisiynau a gweithdai creadigol, i wirfoddoli a swyddi yn ein tîm.
YMUNWCH Â’N BWRDD
Mae Llantarnam Grange am recriwtio Cadeirydd a Thrysorydd newydd i ymuno â’n bwrdd. Daw tymor y naill a’r llall i ben yn Rhagfyr 2022. Rydyn ni’n chwilio am bobl a all gynnig eu sgiliau, eu profiadau a’u brwdfrydedd i arwain ein sefydliad fel y ganolfan gelfyddydau ranbarthol ar gyfer crefftau a chelfyddydau gweledol yn y de ddwyrain. Os ydych chi’n angerddol am ein gwaith gyda gwneuthurwyr, artistiaid, pobl ifanc, ein cymuned leol, a’n cynulleidfaoedd ehangach, ac os ydych am wneud gwahaniaeth i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru, bydden ni’n falch o glywed gennych chi.
Rydyn ni’n annog ceisiadau yn benodol gan bobl sydd â phrofiad byw o’r Gymraeg, gan gefnogi ei datblygiad yn niwylliant Cymru; pobl sydd ag anableddau; a phobl groenliw
SUT I WNEUD CAIS
Cyflwynwch eich CV, llythyr eglurhaol, a’r ffurflen fonitro cydraddoldeb ac amrywiaeth sydd ar gael drwy glicio ar y ddolen hon i Elaine Cabuts, Cadeirydd, drwy elaine.cabuts@llantarnamgrange.com neu drwy’r post i Elaine Cabuts, Cadeirydd, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Heol Dewi Sant, Cwmbrân, Torfaen, NP44 1PD
Darllenwch ein Pecyn Cais cyn ymgeisio
Ffurflen Gais yn Gymraeg
Application Pack English