PANEL CYNGHORI IEUENCTID

Ffurfiwyd ein Panel Cynghori Ieuenctid yn 2021. Mae’n cynnwys 7 person ifanc ymroddgar 16-25 oed. Mae’r aelodau’n gweithio gyda ni i gyd-greu rhaglen o hyfforddiant a chyfleoedd.

 

Maen nhw hefyd yn cyfrannu at ein llywodraethu, drwy fynychu cyfarfodydd gyda’n bwrdd ymddiriedolwyr, porthi polisïau, a rhoi eu barn ar bob agwedd o’n rhaglen.

 

Mae’r panel wedi creu cymuned gref o greawdwyr ifainc yma yn Llantarnam Grange ac mae’n fan lle gallant ddysgu, rhannu profiadau a sgiliau, ac ennill dealltwriaeth well o weithio yn y celfyddydau. Ei nod yw chwyddo lleisiau a barnau pobl ifanc yn y sefydliad.

 

Trwy hyn, mae’r aelodau’n ennill dealltwriaeth o’r amrywiaeth o gyfleoedd creadigol sydd ar gael iddynt, ynghyd â chael cyngor a chymorth gan ein tîm wrth ymgeisio ar gyfer addysg bellach, cyfleoedd yn y celfyddydau neu swyddi creadigol.

Ers iddo gael ei ffurfio, mae’r panel wedi helpu i guradu a gosod ein sioeau; wedi ennill profiad o ryngweithio gyda’r cyhoedd a gwerthu gwaith yng Ngŵyl Grefftau Cheltenham; wedi helpu i lunio ein Polisi Curadurol a’n Cynllun Gweithredu Amgylcheddol; ac ar hyn o bryd maent yn gweithio ar eu harddangosfa eu hun yn 2024, gyda chymorth a mentora gan ein Swyddog Arddangosfeydd.

 

Os hoffech ymuno â’n Panel Cynghori Ieuenctid, cysylltwch â’n Uwch-swyddog Ymgysylltu, Louise, ar [email protected] i gael mwy o wybodaeth ac gwnewch cais yma.

“Fel artistiaid gweledol gweithredol, mae bob amser yn dda cael gwybod beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni a sut mae arddangosfa’n cael ei rhoi at ei gilydd. Yn y brifysgol rydych chi’n dysgu manion bethau amdano, ond mae cael profiad go iawn ohono eich hunan yn gwbl wahanol.”  –  Jess, 24

“Rwy’n teimlo bod hyn wedi helpu fy ngwaith celf oherwydd rydych chi’n dysgu sgiliau newydd ac rwy’n gallu defnyddio hynny yn y prosiectau sydd gen i” 

–  Rosie, 16

“Mae’r Panel Cynghori Ieuenctid yn un o’n datblygiadau pwysicaf yma yn y Grange. Mae’n ymgysylltu â’r bwrdd am ein bod eisiau rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn y pethau a wnawn yma, a hefyd rydym eisiau i’r bwrdd a’r staff wybod beth mae ieuenctid heddiw yn meddwl go iawn, a sut gallant helpu i ddatblygu ein dyfodol gyda’n gilydd.”

–  Elaine Cubits, Cadeirydd, Y Bwrdd Ymddiriedolwyr