CWRDD Â’R TÎM
Rydyn ni’n dîm cyfeillgar ac ymroddedig! Dywedwch helo pan fyddwch chi’n ein gweld ni yn yr adeilad y tro nesaf, neu cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriadau e-bost isod.

Alice Bethune
Gweinyddwr
Ymunodd Alice â’r tîm yn 2011 ar brentisiaeth, ac mae hi wedi gweithio ei ffordd i fyny i ddod yn Weinyddwr, Cynorthwyydd Cyllid, a Chydlynydd Gwirfoddolwyr. Mae Alice yn gweithio gyda’r holl adrannau amrywiol yn Llantarnam Grange, ac mae’n ceisio sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â ni yn teimlo wedi’u croesawu a’u cefnogi. Mae Alice yn dipyn o bioden sy’n cael ei denu at bethau gloyw a sgleiniog, ac mae hi wrth ei bodd â chreision a brodwaith.

Amy Davies
Cynorthwyydd Caffi
Daeth Amy i Lantarnam Grange yn 15 oed i gael profiad gwaith, a gwirfoddolodd yn yr adran addysg cyn dechrau gweithio yn y caffi. Cafodd Amy ei phenodi yn Rheolwr Cynorthwyol y Caffi yn 2019, ac mae’n helpu gyda’r gwaith o redeg y caffi o ddydd i ddydd ac yn cyfarch y cwsmeriaid gyda’i gwên a’i chwerthiniad heintus. Mae Amy wrth ei bodd yn gwneud creaduriaid crosio i’w theulu a’i ffrindiau ac mae ganddi lyfr yn ei llaw bob amser.

Savanna Dumelow
Swyddog Arddangosfeydd
Dechreuodd Savanna wirfoddoli yn Llantarnam Grange yn 2017 ar ôl graddio mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru. Yn Swyddog Arddangosfeydd erbyn hyn, hi sy’n trefnu ac yn curadu ein harddangosfeydd. Mae cydweithio’n bwysig iddi, ac mae hi’n awyddus i gefnogi artistiaid newydd a sefydledig fel ei gilydd. Mae Savanna hefyd wrth ei bodd yn gweithio ar ei phrosiectau creadigol ei hunan, ac mae hi’n nyrd balch yn y bôn.

Holly Ivany
Rheolwr Caffi
Mae Holly wedi bod yn gweithio yn y caffi ’nôl a mlaen ers iddi fod yn 16 oed, a daeth hi’n rheolwr yn 2019. Mae Holly’n gredwr brwd mewn defnyddio cynnyrch lleol a ffres, gan gynnig opsiynau iach a llysieuol amrywiol i’r rhai sy’n dod i’r caffi – bydd hi bob amser yn gwneud ei gorau i ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion deietegol. Mae Holly wrth ei bodd ag ychydig o liw (fel sydd i’w weld yn ôl ei gwallt morforwyn/uncorn), mae’n mwynhau pobi, ac yn meddwl bod ymlusgiaid yn ciwt.

Sophie Lindsey
Swyddog Marchnata
Sophie yw ein Swyddog Marchnata a ymunodd yn y gaeaf 2021. Hi sy’n arwain ar gyfeiriad strategol ein gwaith cyfathrebu a marchnata, ac mae’n cefnogi ein gwaith partneriaeth a datblygu. Mae Sophie bob amser yn awyddus i glywed am bobl sydd am gydweithio, felly mae croeso i chi gysylltu. Mae Sophie yn treulio gweddill ei hamser yn gweithio ar amrywiol brosiectau llawrydd fel artist, curadur a dylunydd graffeg, ac mae ganddi gasgliad helaeth o hetiau gwlân.

Louise Jones-Williams
Cyfarwyddwr
Daeth Louise yn Gyfarwyddwr yn 2019. Ar ôl bod gyda’r sefydliad ers 25 mlynedd, mae hi’n adnabod holl agweddau’r sefydliad ac anghenion ein cymunedau fel cefn ei llaw. Hi sy’n arwain ar gyfeiriad strategol, busnes a chreadigol y sefydliad, gan gydweithio gyda’n partneriaid a’n rhwydweithiau i ddatblygu cydberthnasau a phrosiectau. Mae Louise wrth ei bodd â chymysgedd eclectig o gerddoriaeth metel yr wythdegau a’r nawdegau, teithiau i leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cathod, a nofelau Jane Austen.

Louise Tolcher-Goldwyn
Uwch Swyddog Addysg
Daeth Louise yn Uwch Swyddog Addysg yn 2003. Hi sy’n goruchwylio ein rhaglen addysg, gan arwain ar ddatblygiad creadigol a darparu gweithgareddau cyfranogol. Mae Louise o’r farn y dylai fod gan bawb gyfle i ymgysylltu â’r celfyddydau, a bydda’n falch o glywed gan unrhyw un sydd â syniad am brosiect, neu a hoffai weithio gyda ni. Mae tsimpansîs o ffelt a brodwaith yn rhoi gwên ar ei hwyneb hefyd, ynghyd ag arluniadau inc ac esgidiau lliwgar.
Elusen yw Llantarnam Grange, a gaiff ei llywodraethu gan ein bwrdd ymroddedig o ymddiriedolwyr. Maen nhw’n goruchwylio ein gweithgarwch ac yn sicrhau ein bod yn rhoi ein gwerthoedd craidd, sef Creadigrwydd, Gwaddol, Cydraddoldeb, Dyhead a Chreu Lle, wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.

Stephanie Burge
Cadeirydd
Mae Steph yn angerddol dros ddemocratiaeth ddiwylliannol a gweithio gyda phobl i greu sector diwylliannol mwy cynrychiadol, cynhwysol a hygyrch. Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Dysgu, Dehongli a Chyfranogi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a chyn hynny bu ganddi nifer o rolau yn Amgueddfa Cymru lle roedd yn canolbwyntio ar arwain newid sefydliadol er mwyn gosod cymunedau wrth galon eu gwaith. Mae Steph hefyd yn ceisio dysgu sut i dyfu ffrwythau a llysiau, ac mae’n hoff iawn o gemau bwrdd.

Kim Colebrook
Drysorydd
Daeth Kim yn ymddiriedolwr yn Chwefror 2022 ac mae’n adnabod ac yn caru’r Grange ers dros 30 mlynedd. Mae Kim wedi gweithio yn y sectorau twristiaeth a threftadaeth drwy gydol ei gyrfa, gan hyrwyddo Cymru ledled y byd ac ysbrydoli’r hen a’r ifanc gyda’i storïau am hanes De Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Kim wedi astudio crefftau creadigol, gan arbenigo mewn cerameg, a nawr mae’n gweithio yn ei stiwdio yn Y Fenni ac yn arddangos a gwerthu ar draws y DU.

Toni De Jesus
Ymddiriedolwr
Mae Toni yn geramegydd llawrydd sy’n gweithio yn Stiwdio Fireworks Clay yng Nghaerdydd. Ers iddo raddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Toni wedi ymroi i arddangos a gwerthu gwaith o gwmpas y wlad. Enillodd wobr yn FRESH, Digwyddiad Eilflwydd Cerameg Prydain, yn 2019. Mae gan Toni ddiddordeb mewn cynnwys y genhedlaeth iau yn rhagweithiol yn y sector celfyddydau o safbwynt gweithio’n llawrydd. Mae Toni wrth ei fodd yn gwylio sioeau a rhaglenni dogfen ar goginio ond does ganddo ddim llawer o sgiliau coginio.

Cyng Veronica Crick
Cynrychiolydd Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon
Mae Veronica wedi bod yn aelod o Gyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon ers 1990, a bu’n Glerc y Cyngor am 5 mlynedd cyn hynny. Roedd hefyd yn Gynghorydd Bwrdeistref am 10 mlynedd, yn cynrychioli Torfaen ar sefydliadau allanol. Ei phrofiad cyntaf o Lantarnam Grange oedd yng nghyfarfod lleol Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig ar ddechrau’r 1970au. Fel preswyliwr lleol mae wedi mwynhau gweld sut mae Llantarnam Grange wedi datblygu ar hyd y blynyddoedd nes iddo gyrraedd ei safle cydnabyddedig a chadarnhaol presennol ym myd y Celfyddydau, nid yn unig yn lleol ond ymhellach o lawer ar draws Cymru, y DU a thu hwnt. Mae’n mawr werthfawrogi effaith y gwaith a wneir yn y gymuned leol yn Nhorfaen.

Naseem Syed
Ymddiriedolwr
Artist cymunedol llawrydd yw Naseem, a Chyfarwyddwr Ziba Creative sydd wedi’u lleoli yn stiwdio Llantarnam Grange. Mae Naz yn artist gweledol ymgysylltu cymdeithasol, yn ymgynghorydd, yn asiant ac ymarferydd creadigol, ac yn swyddog ymgysylltu. Mae gweithio gydag eraill yn llywio ei harfer, gan gysylltu pobl a’u straeon, llesiant, a meithrin hyder drwy greadigrwydd. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, mae Naz yn angerddol am gefnogi’r celfyddydau a’u rhoi wrth galon y gymuned. Mae Naz hefyd wrth ei bodd â phom poms, patrymau, ac Elvis!

Fiona Fenton
Ymddiriedolwr
Ymunodd Fi â Llantarnam Grange fel Ymddiriedolwr yn 2022, gan gyfrannu ei sgiliau a’i phrofiad o godi arian, gwirfoddoli a gweinyddu yn y trydydd sector, ac yn benodol mewn sefydliadau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth. Gan fod ganddi gefndir mewn iechyd meddwl a phrofiad personol fel gofalwr, mae’n frwd dros y rôl gall celf a diwylliant ei chwarae wrth wella ymdeimlad o les a sicrhau bod cyfleoedd creadigol a diwylliannol yn hygyrch i bawb. Ar hyn o bryd mae Fi yn gweithio fel gweinyddwr yn Amgueddfa Cymru, ar brosiect sy’n archwilio sut i ddefnyddio’r Amgueddfa a’i chasgliadau i gefnogi a gwella llesiant pobl yr effeithir arnynt gan ddementia. Y tu allan i fyd gwaith, mae Fi yn dysgu sut i gwiltio ar hyn o bryd, ac mae’n mwynhau nofio yn y môr a phobi cacennau fegan!

Cyng Lucy Williams
Cynrychiolydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
“Ers i mi ymuno â’r Bwrdd, rydw i wedi dysgu cymaint am yr amrywiaeth anhygoel o weithgareddau a gynhyrchir yn Llantarnam Grange, ac am ehangder ei allgymorth i bob rhan o’r boblogaeth yn Nhorfaen a thu hwnt. Rydw i wedi gweld dros fy hunan fod creadigrwydd a mynegiant artistig yn fwyfwy pwysig wrth fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a chynhwysiant cymdeithasol. Fel aelod o’r Bwrdd a benodwyd gan yr awdurdod lleol, rwy’n ystyried mai fy rôl innau yw hyrwyddo’r gwaith yn Llantarnam Grange drwy gefnogi gwaith y staff ac aelodau eraill y Bwrdd, gan amlygu ei swyddogaethau niferus yn ein cymunedau a chysylltu â rhanddeiliaid eraill i hybu holl agweddau’r gwaith yn Llantarnam Grange.”

Cyng Gareth Lloyd-Tolman
Cynrychiolydd Cyngor Cymuned Cwmbrân

Cyng Jayne Watkins
Ymddiriedolwr
“Rwy’n Gynghorydd newydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac rwy’n falch iawn o gael fy ngwahodd i weithio gyda Llantarnam Grange sydd yn adnodd gwych yn ein hardal. Mae’n fan modern, arloesol sy’n arddangos amrywiaeth o arddulliau artistig.”
