CORNEL CELF CYMUNEDOL

Croeso i’n Cornel Celf Cymunedol sydd newydd dderbyn cyllid. Os hoffech gael amser a lle i weithio ar eich prosiectau personol, i gwrdd ag eraill, neu i ymlacio mewn man diogel a chynnes, yna dewch i weld y gweithgareddau creadigol am ddim sydd ar gael gennym.

CLWB CREFFTAU

Dydd Gwener 10yb-12yp

 

Mae ein Clwb Crefftau wythnosol wedi bod yn rhedeg ers 2021. Mae’n fan lle gallwch weithio ar eich gwau, brodwaith, ffeltio, peintio, darlunio, neu pa grefft bynnag sy’n eich ysbrydoli! Mae’n fan cymdeithasol ar gyfer rhannu sgiliau a syniadau, ynghyd â gweithio ar eich prosiectau.

 

Bydd rhai deunyddiau celf a chrefft sylfaenol ar gael.

 

Mae hwn yn grŵp hunanarweiniol ac nid yw’n cynnwys tiwtor celf.

CYFARFODYDD ARTISTIAID

Bob Dydd Mawrth Cyntaf y Mis, 5-7pm

 

2 Mai, 5-7yp 

 

Mae ein Cyfarfodydd Artistiaid newydd yn gyfle i gwrdd ag artistiaid a gwneuthurwyr eraill i rannu syniadau, gwybodaeth a phrofiadau. Ei nod yw creu cymuned artistig gefnogol a’ch ysbrydoli yn eich ymarfer.

 

Mae hwn yn fan lle gallwch rannu eich gwaith presennol, gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â’ch gwaith neu’r sector, a gwrando ar eraill.

 

Arweinir pob sesiwn gan aelod o Staff Llantarnam Grange.

MYNEDIAD AGORED

Bob dydd, 10yb-3yp

 

Gallwch ddod yma i ddefnyddio ein Cornel Celf Cymunedol bob dydd. Bydd troli ar gael gydag amrywiaeth o ddeunyddiau collage a darlunio.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud neu aros am awr neu ddwy.

 

Mae gennym hefyd gasgliad o lyfrau a chylchgronau celf a chrefft a roddwyd i ni y gallwch eu darllen am ddim.

Cynhelir yr holl weithgareddau ar y llawr isaf, yn Oriel 2 neu yn ein Caffi. Mae mynediad i gadeiriau olwyn, dolen sain, a thŷ bach hygyrch yn y mannau hyn.

 

Gall ymwelwyr sy’n defnyddio’r lle fel Hyb Cynnes gasglu taleb diod boeth am ddim yn y dderbynfa tan 31ain Mawrth.

 

*Americano, te brecwast, neu de llysieuol

 

Ffoniwch ni ar 01633 483321 neu e-bostiwch ni yn [email protected] i gael mwy o wybodaeth!

 

Ariennir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.