CASGLIAD PARHAOL
Mae Llantarnam Grange wedi bod wrthi’n adeiladu ei gasgliad parhaol o weithiau celf a chrefft cyfoes ers dros 55 mlynedd.
Mae’r Casgliad Parhaol yn bodoli drwy haelioni: Frank Hamer, Margaret Jones, Alison Howard, Sue Alder a Huw Griffiths, yr artistiaid a’u teuluoedd/ystadau.
Mae ein Casgliad Parhaol yn cynnwys gwaith gan:
Elieen Allan, Lewis Allan, Jessie Bayes, Sarah Bradford, Evenlyn Brearley, Mick Brown, William Brown, Brendan Burns, George Codsell, Gerda Coldicott, Howard Coles, Richard Cox, Jack Crabtree, Gary Day, Liz Elmhirst, Margaret Genge, Ray Goodman, Ashraf Hanna, Janet Hamer, Ruth Harries, Rozanne Hawksley, David Hobbs, Terry Jones, Maria Korvsiewicz, Andy Lumborg, Caroline MacMichael, Philip Muirden, Colin Orchard, Michael Organ, Arlie Panting, Rhoda Partridge, Grant Petrey, Paul Peter Piech, Shelagh Popham, Lillian Rathmell, Thomas Rathmell, Mark Saunders, John Selway, Ivan Tarasjuk, David Tinker, John Wright a Ernest Zobole.
Gallwch hefyd ddarganfod darnau o’n casgliad parhaol drwy wefan ARTUK yma.
Gweld Ein Casgliad Parhaol
Mae rhai darnau o’r casgliad yn cael eu harddangos ar ein llawr cyntaf: yn Ystafell Selway, Ystafell Zobole a’r coridor. Yn y mannau hyn, rydym yn ceisio cylchdroi’r gweithiau rydym yn eu harddangos o’n casgliad parhaol.
Hygyrchedd
Noder: oherwydd natur hanesyddol ein hadeilad, ar hyn o bryd nid oes mynediad i’r llawr cyntaf i bobl anabl.
Argaeledd
Noder bod ein hystafelloedd yn cael eu bwcio weithiau ar gyfer digwyddiadau preifat, cyfarfodydd, neu weithgareddau eraill. Os ydych yn bwriadu ymweld ar amser penodol, cysylltwch â ni drwy alw’r dderbynfa ar 01633 483321 neu e-bostio: hello@llantarnamgrange.com, a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu.
Llogi Ystafelloedd
Os oes diddordeb gennych mewn llogi un o’n hystafelloedd, ewch i’n tudalen Llogi Ystafelloedd am ragor o wybodaeth.
Rhith-daith
Llywiwch i’r chwith ac ewch i fyny’r grisiau at Ystafell Selway ac Ystafell Zobole, a bwriwch olwg ar ein casgliad parhaol.
Loading...
Dewi Tannatt Lloyd
Ystafell Selway
Sefydlwyd ein Hystafell Selway ym mis Gorffennaf 2022 i arddangos gwaith yr artist Cymreig, John Selway. Mae Ystafell Selway yn cynnwys arddangosfa newidiol o waith John, y mae rhai darnau ar werth (Nid yw Own Art ar gael ar gyfer gwaith John Selway, ond gofynnwch i aelod staff ynglŷn â’r opsiynau talu).
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llantarnam Grange wedi arddangos gwaith John nifer o weithiau, mewn sioeau cydweithredol a solo. Yn 2015, arddangosodd Llantarnam Grange ‘Trans Iberia’, sef corff eithriadol o waith sydd, yng ngeiriau John, yn adlewyrchu ‘natur ddamweiniol llawer o fy nheithiau ar hyd y blynyddoedd a’m gwahanol ymatebion’.
Yn anffodus, bu farw John yn 2017. Ers hynny, mae Llantarnam Grange wedi parhau i gydweithio gyda’i deulu, i chwilio am ffyrdd o barhau i ddangos ei waith i’r cyhoedd.
John Selway (1938-2017)
Ganwyd John Selway i rieni Cymreig yn nhref fach lofaol, Askern, ger Doncaster, yn ne Swydd Efrog, ac yna dychwelodd i Gymru, lle bu’n byw ac yn gweithio yn Abertyleri. Astudiodd yng Ngholeg Celf Casnewydd lle cafodd ei addysgu gan Tom Rathmell a lle dechreuodd ymddiddori mewn haniaeth.
Bu’n astudio yn y Coleg Celf Brenhinol, Llundain, ac yna enillodd Ysgoloriaeth Deithio Boise Prifysgol Llundain i beintio ym Mhortiwgal. Dyma lle dechreuodd ei hoffter cydol oes o benrhyn Iberia, a ysbrydolodd ‘Trans Iberia’. Pan ddychwelodd i Gymru, bu’n addysgu yng Ngholeg Celf Casnewydd am lawer o flynyddoedd ac yn ddarlithydd gwadd yng Ngholeg Celf Sir Gâr. Mae wedi arddangos yn helaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gwelir ei waith mewn llawer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat, yn cynnwys Amgueddfa Cymru ac Orielau Cymru.


Ystafell Zobole
Mae ein Hystafell Zobole yn arddangos gwaith gan Terry Jones, Richard Cox, Thomas Rathmell, Arlie Panting ac Ernest Zobole, y mae’r ystafell yn dwyn ei enw.
Ernest Zobole (1927- 1999)
Ystyrir Zobole yn un o Artistiaid gweledigaethol Cymru, a chafodd ei eni yn Ystrad, yng nghanol Cwm Rhondda, i rieni a fewnfudodd o Dde’r Eidal. Astudiodd yng Ngholeg Celf Caerdydd a bu’n addysgu yng Ngholeg Celf Casnewydd. Roedd Zobole yn arlunydd â’i wreiddiau’n gadarn yn Ne Cymru Ddiwydiannol ac roedd yn ymddiddori’n ddwfn yn ei gymdogaeth, gan ei ystyried ei hun yn rhan o’r dirwedd. Roedd daearyddiaeth a chymuned unigryw Cwm Rhondda yn brif ysbrydoliaeth i’w baentiadau.











