SIOP GREFFTAU

 

Mae ein Siop Grefftau yn arddangos ystod wych o emwaith, cerameg, tecstilau, cardiau, cerfluniau a mwy, gan artistiaid a gwneuthurwyr Cymru.

 

Galwch heibio i’n siop i weld yr holl nwyddau sydd gennym ar werth, neu ewch i’n siop ar-lein i weld detholiad cyfyngedig.

Ein Celf

Mae Llantarnam Grange yn cynnig y cynllun Ein Celf yn ffordd fforddiadwy o brynu gwaith celf. Mae Ein Celf yn rhannu’r taliad am waith celf yn 10 taliad misol di-log.

 

Mae modd talu ag Ein Celf drwy mewn person yn ein oriel neu dros e-bost: hello@llantarnamgrange.com

Sut mae ymgeisio

 

Mae Ein Celf ar gael i holl drigolion y DU sydd dros 18 oed gan ddibynnu ar eich statws. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ichi fodloni un o’r meini prawf canlynol ichi gael talu ag Ein Celf:

– gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos (cyflogedig neu hunangyflogedig)
– rhywun sydd wedi ymddeol ac yn cael pensiwn
– os nad ydych yn gweithio ond yn briod â phartner neu’n byw gyda phartner sy’n bodloni’r meini prawf uchod, gallwch ymgeisio o hyd, ar yr amod bod eich partner yn hapus i gynnwys ei fanylion cyflogaeth ar eich ffurflen gais

 

Os ydych am gasglu eich gwaith celf pan fydd yn barod, rhaid ichi fod yn barod gyda’r canlynol i’w ddangos i dîm yr oriel:

– e-bost sy’n cadarnhau eich archeb/y nwyddau/trefniadau casglu
– ffurf adnabod ddilys â ffoto (trwydded yrru neu basbort) yn yr un enw â’r casglwr
– y cerdyn y talwyd y blaendal drwyddo – a rhaid iddo fod yn eich enw eich hun
– prawf eich bod yn byw yn y DU