Polisi Preifatrwydd

Mae Llantarnam Grange (“Y Ni”) yn ymrwymedig i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.

Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau defnyddio ac unrhyw ddogfennau eraill y cyfeirir atynt arno) yn cyflwyno’r sail ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych, neu a roddwch i ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein barnau a’n harferion ynghylch eich data personol a sut fyddwn yn eu trin.

At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998 (y Ddeddf), y rheolwr data yw Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange Yng Nghymru sy’n gofrestredig yng Nghymru a Lloegr dan y rhif cwmni 2616241 ac mae ein swyddfa gofrestredig yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Heol Tyddewi, Cwmbrân, Torfaen, NP44 1PD.

Gwybodaeth y gallem ei chasglu gennych
Efallai y byddwn yn casglu ac yn prosesu’r data canlynol amdanoch chi:

  • Gwybodaeth a ddarperwch trwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan www.lgac.org.uk (ein gwefan). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir wrth gofrestru i ddefnyddio ein gwefan, tanysgrifio i’n gwasanaethau neu restri postio, postio deunydd neu ofyn am wasanaethau ychwanegol. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth pan fyddwch yn rhoi gwybod am broblem gyda’n gwefan.
  • Os cysylltwch â ni, efallai byddwn yn cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.
  • Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau arolygon a ddefnyddiwn at ddibenion ymchwil, er nad oes rhaid i chi ymateb iddynt.
  • Manylion am drafodion a gyflawnwch drwy ein gwefan ac am gwblhau eich archebion.
  • Manylion am eich ymweliadau â’n gwefan yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddata trafnidiaeth, gwe-flogiau a data cyfathrebu eraill, p’un ai fod angen y rhain at ein dibenion bilio neu fel arall, a’r adnoddau a gyrchwch.

ACyfeiriadau IP a chwcis
Efallai byddwn yn casglu gwybodaeth ynglŷn â’ch cyfrifiadur yn cynnwys, ble bo ar gael, eich cyfeiriad IP, y math o system weithredu a’r porwr, at ddibenion gweithredu system ac i anfon gwybodaeth gyfanredol i’n hysbysebwyr. Data ystadegol yw’r rhain ynglŷn â phatrymau a gweithredoedd pori ein defnyddwyr, ac nid ydynt yn enwi unrhyw unigolyn.

Am yr un rheswm, efallai y byddwn yn cael gwybodaeth ynglŷn â’ch defnydd cyffredinol o’r rhyngrwyd trwy ddefnyddio ffeil cwcis a gaiff ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth a drosglwyddir i yriant caled eich cyfrifiadur. Maent yn ein helpu i wella ein gwefan ac i gyflwyno gwasanaeth gwell a mwy personol. Maent yn ein galluogi i:

  • Amcangyfrif maint a phatrwm defnyddio ein cynulleidfa.
  • Storio gwybodaeth ynglŷn â’ch dewisiadau, ac felly caniatáu i ni addasu ein gwefan yn unol â’ch diddordebau personol.
  • Cyflymu eich chwiliadau.
  • Gwybod pan ddewch yn ôl at ein gwefan.

Gallwch wrthod derbyn cwcis trwy actifadu’r gosodiad ar eich porwr sy’n caniatáu i chi wrthod gosod cwcis. Fodd bynnag, os dewiswch y gosodiad hwn, efallai na fyddwch yn gallu cyrchu rhannau penodol o’n gwefan. Oni bai eich bod wedi addasu eich gosodiad porwr fel y bydd yn gwrthod cwcis, bydd ein system yn cyflwyno cwcis pan fyddwch yn mewngofnodi ar ein gwefan.

Ble rydym yn storio eich data personol
Fel rheol, caiff y data a gasglwn gennych eu trosglwyddo a’u storio o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (“EEA”) yn unig. O bryd i’w gilydd efallai bydd angen trosglwyddo’r cyfryw ddata i, a’i storio mewn, cyrchfan y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“EEA”). Efallai hefyd y cânt eu prosesu gan staff sy’n gweithredu y tu allan i’r EEA sy’n gweithio ar ein rhan ni neu ar ran un o’n cyflenwyr. Gallai’r cyfryw staff fod wrthi, ymhlith pethau eraill, yn cwblhau eich archeb, yn prosesu eich manylion talu ac yn darparu gwasanaethau cymorth. Trwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddo, storio neu brosesu hyn. Byddwn yn cymryd pob cam sydd ei angen yn rhesymol i sicrhau bod eich data’n cael eu trin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.
Ble rydym wedi rhoi cyfrinair i chi (neu rydych chi wedi dewis un) sy’n eich galluogi i gyrchu rhannau penodol o’n gwefan, rydych chi’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu cyfrinair gydag unrhyw un.
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd yn hollol ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i’n gwefan; y chi sy’n derbyn y cyfrifoldeb am wneud y trosglwyddiad. Pan fyddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion sicrwydd i geisio atal mynediad anawdurdodedig.

Y defnyddiau a wneir o’r wybodaeth
Rydym yn defnyddio gwybodaeth a ddaliwn amdanoch yn y ffyrdd canlynol:

  • I sicrhau bod cynnwys ar ein gwefan yn cael ei gyflwyno yn y dull mwyaf effeithiol ar eich cyfer chi ac ar gyfer eich cyfrifiadur.
  • I roi gwybodaeth, cynhyrchion neu wasanaethau i chi y gofynnwch i ni amdanynt, neu y teimlwn allai fod o ddiddordeb i chi, ble rydych wedi caniatáu i ni gysylltu â chi at y cyfryw ddibenion.
  • I gyflawni ein rhwymedigaethau sy’n ymgodi o unrhyw gontractau y cytunir arnynt rhyngoch chi a ni.
  • I ganiatáu i chi gyfranogi yn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan fyddwch yn dewis gwneud felly.
  • I roi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich data, neu’n caniatáu i drydydd partïon dewisol ddefnyddio eich data, er mwyn rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â nwyddau a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi, ac efallai byddwn ni neu nhw yn cysylltu â chi ynglŷn â’r rhain drwy’r post neu dros y ffôn.
Os ydych yn gwsmer yn barod, byddwn yn cysylltu â chi drwy ddulliau electronig yn unig (e-bost neu SMS) neu dros y ffôn ble rydych wedi rhoi eich caniatâd drwy dicio blwch priodol, gyda gwybodaeth ynglŷn â nwyddau a gwasanaethau tebyg i’r rhai oedd yn destun gwerthiant blaenorol i chi. Os ydych yn gwsmer newydd, a ble rydym yn caniatáu i drydydd partïon dethol ddefnyddio eich data, byddwn ni (neu nhw) yn cysylltu â chi drwy ddulliau electronig ddim ond os ydych wedi cydsynio â hyn.

Datgelu eich gwybodaeth
Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw aelod o’n grŵp, sy’n golygu ein his-gwmnïau, ein cwmni daliannol eithaf a’i is-gwmnïau, fel y’i diffiniwyd yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau’r DU 2006.
Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon:

  • Pe byddem yn gwerthu neu’n prynu unrhyw fusnes neu asedau, yn y cyfryw achos efallai byddem yn datgelu eich data personol i ddarpar werthwr neu brynwr y cyfryw fusnes neu asedau.
  • Os cawn Ni neu os caiff ein holl asedau i bob pwrpas eu caffael gan drydydd parti, yn y cyfryw achos bydd data personol a ddaliwn ynglŷn â’n cwsmeriaid yn un o’r asedau a drosglwyddir.
  • Os ydym Ni dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio a chytundebau eraill; neu i ddiogelu hawliau, eiddo, diogelwch, ein cwsmeriaid, neu bobl eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion gwarchod rhag twyll a gostwng risgiau credyd.

Eich hawliau
Mae gennych hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Fel rheol byddwn yn eich hysbysu (cyn casglu eich data) os ydym yn bwriadu defnyddio eich data at y cyfryw ddibenion neu os ydym yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti at y cyfryw ddibenion. Gallwch arfer eich hawl i atal y cyfryw brosesu drwy gysylltu â ni ar [email protected].

O bryd i’w gilydd, gallai ein gwefan gynnwys dolennau i ac o wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chysylltiedigion. Os dilynwch ddolen i unrhyw rai o’r gwefannau hyn, dylech nodi y bydd gan y gwefannau eu polisïau preifatrwydd eu hun ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn cyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.

Mynediad i wybodaeth
Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi gyrchu gwybodaeth a ddelir amdanoch chi. Gellir arfer eich hawl mynediad yn unol â’r Ddeddf. Gall unrhyw gais am fynediad fod yn amodol ar dalu ffi o £10 i gwrdd â’n costau wrth roi manylion y wybodaeth a ddaliwn amdanoch chi.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Caiff unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol ei phostio ar y dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i nodi unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn eich rhwymo. Gallai rhai o’r darpariaethau a gynhwysir yn y Polisi Preifatrwydd hwn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir yn rhywle arall ar ein gwefan.

Cyswllt
Croesewir unrhyw gwestiynau, sylwadau a cheisiadau ynghylch y polisi preifatrwydd hwn a dylid eu cyfeirio at [email protected]