Cyfarfodydd Artistiaid

CORNEL CELF CYMUNEDOL
CYFARFODYDD ARTISTIAID
6 MAI, 5-7YP

 

Cynhelir ein sesiwn Cyfarfodydd Artistiaid nesaf ar ddydd Mawrth 6 Mai, 5-7yp

 

Tro + Sgwrs gyda Keith Bayliss

Ymunwch â Keith Bayliss am sgwrs a thro o gwmpas ei arddangosfa bresennol Singing in the Darkness yn Oriel 1, a ddilynir gan gyfle i bigo’i ymennydd ynglŷn â’i ysbrydoliaeth, ei broses greadigol, a gweithio yn y celfyddydau.

 

O redeg gweithdai, cysylltu ag orielau, a phrisio gwaith, bydd Keith yn ein helpu i ddeall sut mae’n cynnal ei ymarfer ac yn dod o hyd i gyfleoedd.

 

Rydym yn cydnabod bod rhannu gwaith celf gydag eraill yn gallu bod yn frawychus. Datblygwyd Artist Meets fel lle cefnogol gyda’r bwriad o ddatblygu hyder, rhannu syniadau, a’n galluogi ni i ddysgu oddi wrth ein gilydd.

 

Byddwn yn darparu lluniaeth ym mhob sesiwn.

Y SESIYNAU NESAFP: 2025

1 Ebrill – Sesiwn Rannu
6 Mai – Tro + Sgwrs gyda Keith Bayliss
3 Mehefin – Sesiwn Rannu
1 Gorffennaf – Archwilio Deunyddiau a Syniadau

 

Bydd Cyfarfodydd Artistiaid yn cael seibiant ym mis Awst 2025, ac yn dychwelyd ar yr un amser ddydd Mawrth 2 Medi.

Os ydych yn meddwl dod ac mae gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni. E-bostiwch y tîm ar [email protected], ffoniwch ni ar 01633 483321, neu galwch heibio am sgwrs.

Mae Cwrdd â’r Artistiaid yn gyfle i ddod ynghyd ag artistiaid eraill i greu cymuned artistig gefnogol, datblygu sgiliau a gwybodaeth, a’ch ysbrydoli yn eich ymarfer. Mae’r sesiynau hyn yn croesawu’r holl artistiaid, p’un a ydych yn artist cadair freichiau neu’n creu celf fel eich proffesiwn.