Nod ein rhaglen o arddangoswyr ac arddangosfeydd yw cefnogi ac ysbrydoli artistiaid a chynulleidfaoedd, rhannu gwaith artistiaid a gwneuthurwyr o bob cwr o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys artistiaid creadigol arweiniol a rhai newydd, gyda chyfleoedd penodol i feithrin lleisiau newydd.

 

Gyda’r gwaith wedi ei rannu drwy ein hadeilad, yn ein horielau, y cyntedd, y caffi ac ystafelloedd cyfarfod, ein nod yw creu rhaglen amrywiol sy’n dathlu celfyddydau a chrefftau gweledol.

 

Mae gennym hefyd raglen o Arddangosfeydd Teithiol gydag orielau partner, a Chasgliad Parhaol, yr ydym wedi bod yn ychwanegu ato am 55 o flynyddoedd.

Presennol

Sioe Arddangos Gerameg

Arddangosfa grŵp gan fyfyrwyr sy’n graddio o Adran Gerameg CSAD, yn dangos amrywiaeth o waith sy’n archwilio gwahanol brosesau a thechnegau, o lestri ymarferol i gerflunwaith arbrofol.

 

Yn y gwaith datblygiadol hwn byddwch yn canfod storïau sy’n cysylltu deunyddiau â lleoedd, technegau sy’n ymestyn ar draws y cyfandiroedd, a nodweddion sy’n rhannu synnwyr o gartref a pherthyn. Bydd eu gwaith terfynol yn cael ei rannu yn eu sioe gradd a fydd yn digwydd rhwng 7-13 Mehefin 2024.

Yr Oriel Bwrdd Posteri

Ystafell Selway

Gorffennol

Bydd tudalen Archif o’n harddangosfeydd yn y gorffennol yn dod yn fuan.