YSTAFELL SELWAY

Crëwyd ein Hystafell Selway ym mis Gorffennaf 2022 i arddangos gwaith yr artist o Gymro, John Selway. Bydd rhaglen gyfnewidiol yn yr ystafell hon, gan ddwyn ynghyd darnau a chyfluniadau gwaith gwahanol at ei gilydd.

 

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llantarnam Grange wedi arddangos gwaith John sawl gwaith, mewn sioeau solo a chydweithredol. Yn 2015, arddangosom ‘Trans Iberia’, corff eithriadol o waith yn adlewyrchu, yng ngeiriau John, ‘natur anhrefnus braidd fy nheithiau niferus ar hyd y blynyddoedd, a’m gwahanol ymatebion’.

 

Yn anffodus, bu farw John yn 2017. Ers hynny, mae Llantarnam Grange wedi parhau i gydweithio gyda’i deulu i ddod o hyd i ffyrdd o barhau i ddangos ei waith i’r cyhoedd.

PWY YW JOHN SELWAY

 

Ganwyd John Selway i rieni Cymreig yn 1938 yn Askern, tref fechan lofaol yn ne Swydd Gaerefrog, ger Doncaster. Ar ôl i’w rieni ddychwelyd i’w mamwlad yn 1940, bu John yn byw ac yn gweithio yn Abertyleri. Astudiodd yng Ngholeg Celf Casnewydd rhwng 1953 a 1957 a chafodd ei addysgu gan Tom Rathmell.

 

Yn 1957 dechreuodd ei ddwy flynedd o Wasanaeth Milwrol. Rhwng 1959-62 astudiodd yn y Coleg Celf Brenhinol, Llundain cyn ennill Ysgoloriaeth Deithio Boise gan Brifysgol Llundain i beintio ym Mhortiwgal. Dyma ddechrau ei gariad cydol oes at yr orynys a ysbrydolodd ‘Trans Iberia’.

 

Pan ddychwelodd i Gymru, addysgodd yng Ngholeg Celf Casnewydd am lawer o flynyddoedd. Bu hefyd yn ddarlithydd gwadd yng Ngholeg Celf Sir Gâr. Arddangosodd yn helaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei waith yn bresennol mewn llawer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat.

GWYBODAETH I YMWELWYR

 

Ymunwch â ni yn Llantarnam Grange ar gyfer agor Ystafell Selway ar ddydd Sadwrn 13 Awst, 12-2pm.

 

Mae ystafell Selway ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r anabl at y llawr hwn, ond gellir gweld y gwaith a arddangosir yn ein Casgliad Digidol.

 

Gan fod ystafell Selway yn cael ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o brosiectau addysgol a chymunedol, efallai na fydd y cyhoedd yn gallu gweld y gwaith ar adegau. Mae croeso i chi ffonio neu anfon e-bost ymlaen llaw os ydych yn bwriadu dod yn arbennig i weld y gwaith hwn. Byddwn yn gwneud ein gorau i ymaddasu i’ch ymweliad, yn ystod ein horiau agor. Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith sydd ar ddangos yn ystafell Selway ar werth.

CASGLIAD DIGIDOLD

Bydd ein Casgliad Digidol yn dod cyn hir.