Fel elusen gelfyddydau fechan, rydyn ni’n codi arian drwy’r amser i gefnogi’n costau craidd a’n holl arddangosfeydd, gweithgareddau creadigol a digwyddiadau. Mae unrhyw gyfraniad, ynghyd â gwario yn ein Siop Grefftau a’n Caffi, yn ein helpu!
Rhowch beth allwch chi!
Mae £10 yn talu am ddefnyddiau ar gyfer hanner diwrnod o weithdy
Mae £85 yn talu am diwtor am hanner diwrnod o weithdy celf ac iechyd
Mae £100 yn talu ffi artist sydd newydd raddio ar gyfer ein harddangosfa Portal flynyddol
Gallwch ein cefnogi ni gyda rhodd untro, rhodd fisol neu rodd flynyddol. Dewiswch swm neu rowch swm o’ch dewis chi.
Gallwch ychwanegu 25c o Rhodd Cymorth am bob £1 fyddwch chi’n ei rhoi.
Rydyn ni hefyd yn derbyn rhoddion wyneb yn wyneb gydag arian parod a cherdyn.



