CYFLWYNIAD I DDARLUNIO MYNEGIANNOL
5 EBRILL, 10YB-3YP
Ymunwch â’r artist Keith Bayliss ddydd Sadwrn 5 Ebrill, ar gyfer undydd o weithdy darlunio mynegiannol. Bydd y sesiwn yn dechrau gyda chyfle i edrych o gwmpas ei arddangosfa Singing in the Darkness yn Oriel 1. Yna, bydd yn archwilio sut i ddefnyddio darlunio mewn amrywiaeth o ffyrdd yn eich gwaith creadigol.
Cynhelir y sesiwn hon rhwng 10yb-3yp
Bydd seibiannau anffurfiol, hunan-gyfeiriedig.
Dydy’r lluniaeth ddim wedi’i gynnwys, ond mae Caffi Llantarnam Grange ar agor rhwng 9.30am a 3.30pm ac mae ganddo fwydlen dymhorol o gynnyrch lleol, cawl, tato pob a mwy!
Mae’r sesiwn hon i oedolion a phobl ifanc 16 +
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Bwciwch le drwy Eventbrite yma.
Pris: £10 + ffi bwcio
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

