Nod ein rhaglen o arddangoswyr ac arddangosfeydd yw cefnogi ac ysbrydoli artistiaid a chynulleidfaoedd, rhannu gwaith artistiaid a gwneuthurwyr o bob cwr o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys artistiaid creadigol arweiniol a rhai newydd, gyda chyfleoedd penodol i feithrin lleisiau newydd.

 

Gyda’r gwaith wedi ei rannu drwy ein hadeilad, yn ein horielau, y cyntedd, y caffi ac ystafelloedd cyfarfod, ein nod yw creu rhaglen amrywiol sy’n dathlu celfyddydau a chrefftau gweledol.

 

Mae gennym hefyd raglen o Arddangosfeydd Teithiol gydag orielau partner, a Chasgliad Parhaol, yr ydym wedi bod yn ychwanegu ato am 60 o flynyddoedd.

Yn y Dyfodol

Portal 2026: Arddangosfa o Waith Graddedigion

12 MEDI – 21 TACH

Bananas, Ed Lewis

12 MEDI -21 TACH

Modern Relics, Matthew Lintott

5 RHAG – 27 CHWEF 2027