CYFLEOEDD

 

Cadwch lygad am ein cyfleoedd presennol.

 

Trwy ein gwahanol brosiectau, arddangosfeydd, a’n rhaglen ddysgu, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd trwy gydol y flwyddyn, o alwadau agored, comisiynau a gweithdai creadigol, i wirfoddoli a swyddi yn ein tîm.

CYNORTHWYYDD DIGIDOL

 

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Digidol i ymuno â’n tîm!
40 diwrnod i’w cwblhau rhwng 9 Rhagfyr 2024 – 28 Chwefror 2025

 

Dyma rôl fyrdymor i gefnogi’r Swyddog Marchnata a Datblygu i gyflawni ein Strategaeth Ddigidol a gwella ein cynnig digidol i bartneriaid, cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid ar draws pob llwyfan.

 

Byddai’r swydd hon yn addas i rywun sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn y maes marchnata digidol a chyfathrebu sy’n ystyried ehangu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Mae arnom angen rhywun sy’n hyderus yn eu sgiliau digidol, ac sydd â brwdfrydedd i weithio mewn gwahanol fannau ar-lein, mewn elusen gelfyddydau fach a phrysur.

 

Dyddiad cau: 9am dydd Llun 2 Rhagfyr
Dyddiad y Cyfweliad: dydd Mawrth 3 Rhagfyr

 

Darllenwch ein Pecyn Cais cyn ymgeisio:
Cynorthwyydd Digidol Disgrifiad Swydd – Cymraeg
Digital Assistant Job Description – English

 

SUT I YMGEISIO
Anfonwch lythyr cais a’ch CV drwy e-bost yn unig at ein Gweinyddwr Alice Bethune [email protected]

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at Alice neu rhowch alwad i ni ar 01633 483321

GWIRFODDOLWR – GARDDIOG

 

Rydym yn chwilio am arddwyr brwd i’n helpu i gynnal a datblygu ein gardd flaen. Mae hon yn cynnwys gwelyau uchel a osodwyd fis Hydref diwethaf.

 

Ein gweledigaeth yw cwblhau ein hadeilad Fictoraidd hardd gyda gardd liwgar sy’n gyfeillgar i bryfed ac adar. Rydym eisiau creu ymdeimlad o heddwch a llesiant i’w fwynhau gan ymwelwyr i’r oriel, cwsmeriaid sy’n cael cinio yn ein Caffi, pobl yn mynd heibio, a’n holl beillyddion lleol!

 

Rôl:

 

– Cynnal ein gardd flaen sy’n cynnwys gwelyau uchel ynghyd â phlannu ar y ddaear. Bydd hyn yn cynnwys chwynnu, plannu tymhorol a chasglu sbwriel.
– Helpu i glirio chwyn a gordyfiant y tu ôl i’n hadeilad i ddarparu mynediad diogel o’n hallanfa dân drws cefn.
– Mae rhywfaint o wybodaeth am arddio yn ddymunol

 

Buddion:

 

– Disgownt yn yr orielau/siop grefftau/caffi
– Darperir yr holl offer yn cynnwys menig, offer plannu a’r llawlyfrau Garden Wildlife a British Birds
– Bod yn rhan o dîm o bobl gyfeillgar a chynhwysol
– Amser hyblyg i’ch siwtio chi
– Geirdaon ar gais

 

Os oes diddordeb gennych yn y swydd wirfoddoli hon, neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost atom yn [email protected] neu rhowch alwad i ni ar 01633 483321

 

Lle bo’n briodol, gallwn drefnu sgwrs anffurfiol, mewn person neu dros y ffôn, gyda’n Cydlynydd Gwirfoddoli.

Newyddion diweddaraf Llantarnam Grange

I gael cynigion arbennig, gwahoddiadau a diweddariadau

YMUNWCH Â’N
RHESTR BOSTIO

Mailing List Homepage-cy