YR ORIEL BWRDD POSTERI

Mae ein Horiel Bwrdd Posteri yn cyflwyno celf y tu allan i waliau’r oriel. Mae’r Oriel ar ochr ein hadeilad, yn edrych i lawr dros Ganol Cwmbrân a maes parcio Glyndŵr.

 

Cafodd ei gosod ym mis Gorffennaf 2022 gydag arian o Gronfa Adferiad Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru.

CELFWAITH PRESENNOL

CYMRAEG DDRWG

Ffion Williams

Mae Cymraeg Ddrwg yn waith newydd gan yr artist Ffion Williams sy’n archwilio Cymreictod, protestio, a gobaith. Gan ddefnyddio’r Gymraeg i archwilio hunaniaeth a pherthyn diwylliannol, mae Ffion yn arbrofi ac yn chwarae gydag iaith, yn haenu testun ac yn defnyddio’u dull personol o gyfieithu creadigol.

 

“Wrth ddefnyddio’r Gymraeg, rwy’n gwneud camgymeriadau, yn colli treigladau, ac yn defnyddio geiriau Saesneg i wneud fy mhwynt. Dw i’n galw hynny’n Gymraeg Ddrwg. Trwy hyn, rydw i’n croesawu iaith fel erfyn esblygol ar gyfer creu.” – Ffion Williams

 

Cynhelir digwyddiad agor yn Llantarnam Grange ar ddydd Sadwrn 18 Mai 12 – 2pm, a bydd y celfwaith yn cael ei arddangos tan wanwyn 2025.

CEFNDIR

 

Mae Ffion yn defnyddio sain, gwaith metel a motiffau baneri protestio i greu gwaith sy’n archwilio iaith, lle, protestio, a diwydianeiddio. Maent yn defnyddio’r Gymraeg i archwilio’u perthynas gymhleth ac anesmwyth â Chymreictod. Fel iaith leiafrifol a waharddwyd am dros 500 mlynedd, mae llawer yn parhau i deimlo’r golled a’r rhwystredigaeth yn yr etifeddiaeth hon.

 

Ar gyfer Cymraeg Ddrwg, bu Ffion yn cyfweld pobl yn yr orsaf drenau yn eu tref enedigol Y Fenni, fel rhan o Casgleb, sef prosiect ymchwil a datblygu a redir gan brosiect Peak Cymru. Trwy gasglu meddyliau ynglŷn ag iaith a hunaniaeth mewn lle sy’n llawn symud, cafodd Ffion ddealltwriaeth o’r amrywiol berthnasoedd â Chymru a Chymreictod. Yna troswyd y rhain i gelfwaith, gan ddefnyddio pytiau o destun i haenu profiadau a barnau, gan greu paentiadau sy’n adlewyrchu’r cyffro mewn Gorsaf Drenau.

 

Trwy ystyried iaith fel rhywbeth sydd hefyd yn symud, ac y gellir chwarae â hi, mae Ffion yn ceisio codi’r pwysau a deimlir yn aml wrth ddysgu. Mae eu dull o gyfieithu creadigol yn ceisio magu hyder a gwneud i bobl deimlo’n gyfforddus wrth geisio, chwarae a chreu gyda’r Gymraeg.

FFION WILLIAMS

Mae Ffion yn artist o’r Fenni sy’n symud rhwng Cymru a Chaeredin. Astudiont beintio yng Ngholeg Celf Caeredin ac arddangosont yn ein harddangosfa raddedig flynyddol, Portal, yn 2023. Mae eu gwaith yn seiliedig ar y Gymraeg a hunaniaeth.

 

GWEITHGAREDDAU CREADIGOL

Ar y cyd â Cymraeg Ddrwg byddwn yn rhedeg cyfres o weithdai a gweithgareddau creadigol am ddim, yn cynnwys Sgwrs gan Artist ddydd Sadwrn 18 Mai am 11am, sesiynau gydag ysgolion lleol, gweithdai ar y cyd â Peak yn Y Fenni, a mwy.

 

Ariennir Cymraeg Ddrwg gan gynllun Creu Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad y Teulu Ashley.

PAST ARTWORK

DANCING OUTSIDE OPENS THE ROAD

Adéọlá Dewis and Catriona Abuneke

Mae Dancing Outside Opens the Road yn waith newydd a grëwyd gan yr artist Adéọlá Dewis a’r ffotograffydd Catriona Abuneke.

 

Cafodd y darn hwn ei ysbrydoli gan hanes ffermio Cwmbrân a’i chysylltiadau â’r diwydiant tun, ac roedd yn dangos y tebygrwydd rhwng y rhain ac elfennau o’r duwdod Ogun, duw haearn, metel a gwaith metel yr Iorwba yng Ngorllewin Affrica.

 

I gael gwybod mwy yma.