CWRDD Â’R TÎM
Rydyn ni’n dîm cyfeillgar ac ymroddedig! Dywedwch helo pan fyddwch chi’n ein gweld ni yn yr adeilad y tro nesaf, neu cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriadau e-bost isod.

Rose Ashley
Cynorthwyydd Marchnata a Datblygu
Mae Rose yn gweithio ochr yn ochr â’n Swyddog Marchnata, gan arwain ar ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a chefnogi ein gwaith cyfathrebu ehangach. Bu Rose yn gwirfoddoli gyda Llantarnam Grange pan oedd hi yn yr ysgol, ac ymunodd â ni drwy gynllun Kickstart ym mis Ebrill 2021. Mae ganddi gefndir ym maes darlunio, ac mae hi’n gefnogwraig frwd o Kate Bush.

Alice Bethune
Gweinyddwr
Ymunodd Alice â’r tîm yn 2011 ar brentisiaeth, ac mae hi wedi gweithio ei ffordd i fyny i ddod yn Weinyddwr, Cynorthwyydd Cyllid, a Chydlynydd Gwirfoddolwyr. Mae Alice yn gweithio gyda’r holl adrannau amrywiol yn Llantarnam Grange, ac mae’n ceisio sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â ni yn teimlo wedi’u croesawu a’u cefnogi. Mae Alice yn dipyn o bioden sy’n cael ei denu at bethau gloyw a sgleiniog, ac mae hi wrth ei bodd â chreision a brodwaith.


Savanna Dumelow
Swyddog Arddangosfeydd
Dechreuodd Savanna wirfoddoli yn Llantarnam Grange yn 2017 ar ôl graddio mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol De Cymru. Yn Swyddog Arddangosfeydd erbyn hyn, hi sy’n trefnu ac yn curadu ein harddangosfeydd. Mae cydweithio’n bwysig iddi, ac mae hi’n awyddus i gefnogi artistiaid newydd a sefydledig fel ei gilydd. Mae Savanna hefyd wrth ei bodd yn gweithio ar ei phrosiectau creadigol ei hunan, ac mae hi’n nyrd balch yn y bôn.

Holly Ivany
Rheolwr Caffi
Mae Holly wedi bod yn gweithio yn y caffi ’nôl a mlaen ers iddi fod yn 16 oed, a daeth hi’n rheolwr yn 2019. Mae Holly’n gredwr brwd mewn defnyddio cynnyrch lleol a ffres, gan gynnig opsiynau iach a llysieuol amrywiol i’r rhai sy’n dod i’r caffi – bydd hi bob amser yn gwneud ei gorau i ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion deietegol. Mae Holly wrth ei bodd ag ychydig o liw (fel sydd i’w weld yn ôl ei gwallt morforwyn/uncorn), mae’n mwynhau pobi, ac yn meddwl bod ymlusgiaid yn ciwt.

Sophie Lindsey
Swyddog Marchnata
Sophie yw ein Swyddog Marchnata a ymunodd yn y gaeaf 2021. Hi sy’n arwain ar gyfeiriad strategol ein gwaith cyfathrebu a marchnata, ac mae’n cefnogi ein gwaith partneriaeth a datblygu. Mae Sophie bob amser yn awyddus i glywed am bobl sydd am gydweithio, felly mae croeso i chi gysylltu. Mae Sophie yn treulio gweddill ei hamser yn gweithio ar amrywiol brosiectau llawrydd fel artist, curadur a dylunydd graffeg, ac mae ganddi gasgliad helaeth o hetiau gwlân.

Louise Jones-Williams
Cyfarwyddwr
Daeth Louise yn Gyfarwyddwr yn 2019. Ar ôl bod gyda’r sefydliad ers 25 mlynedd, mae hi’n adnabod holl agweddau’r sefydliad ac anghenion ein cymunedau fel cefn ei llaw. Hi sy’n arwain ar gyfeiriad strategol, busnes a chreadigol y sefydliad, gan gydweithio gyda’n partneriaid a’n rhwydweithiau i ddatblygu cydberthnasau a phrosiectau. Mae Louise wrth ei bodd â chymysgedd eclectig o gerddoriaeth metel yr wythdegau a’r nawdegau, teithiau i leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cathod, a nofelau Jane Austen.

Becky Lewis
Cynorthwyydd Addysg
Becky yw ein Cynorthwyydd Addysg a Gweinyddwr Gwerthuso Criw Celf. Dechreuodd Becky wirfoddoli yn 2007. Mae Becky’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, ac oedolion agored i niwed yma yn Llantarnam Grange ac yn y gymuned. Mae hi’n angerddol am annog a chefnogi cyfranogiad yn y celfyddydau. Mae hi wrth ei bodd yn darllen, yn dysgu crefftau newydd, ac yn yfed llawer o de.

Naz Syed
Artist Llawrydd Ymgysylltu Cymdeithasol
Artist cymunedol llawrydd yw Naz, a Chyfarwyddwr Ziba Creative sydd wedi’u lleoli yn stiwdio Llantarnam Grange. Mae Naz yn artist gweledol ymgysylltu cymdeithasol, yn ymgynghorydd, yn asiant ac ymarferydd creadigol, ac yn swyddog ymgysylltu. Mae gweithio gydag eraill yn llywio ei harfer, gan gysylltu pobl a’u straeon, llesiant, a meithrin hyder drwy greadigrwydd. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, mae Naz yn angerddol am gefnogi’r celfyddydau a’u rhoi wrth galon y gymuned. Mae Naz hefyd wrth ei bodd â phom poms, patrymau, ac Elvis!

Louise Tolcher-Goldwyn
Uwch Swyddog Addysg
Daeth Louise yn Uwch Swyddog Addysg yn 2003. Hi sy’n goruchwylio ein rhaglen addysg, gan arwain ar ddatblygiad creadigol a darparu gweithgareddau cyfranogol. Mae Louise o’r farn y dylai fod gan bawb gyfle i ymgysylltu â’r celfyddydau, a bydda’n falch o glywed gan unrhyw un sydd â syniad am brosiect, neu a hoffai weithio gyda ni. Mae tsimpansîs o ffelt a brodwaith yn rhoi gwên ar ei hwyneb hefyd, ynghyd ag arluniadau inc ac esgidiau lliwgar.
Elusen yw Llantarnam Grange, a gaiff ei llywodraethu gan ein bwrdd ymroddedig o ymddiriedolwyr. Maen nhw’n goruchwylio ein gweithgarwch ac yn sicrhau ein bod yn rhoi ein gwerthoedd craidd, sef Creadigrwydd, Gwaddol, Cydraddoldeb, Dyhead a Chreu Lle, wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.

Elaine Cabuts
Cadeirydd
Ymgynghorydd annibynnol yw Elaine, sy’n arbenigo mewn hyrwyddo ymgysylltiad cynhwysol a llywodraethu da yn y celfyddydau gweledol. Daeth Elaine yn Ymddiriedolwr i Lantarnam Grange yn 2016, ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei chysylltiad hir â’r sefydliad a’i hoffter ohono, a phopeth mae’n ei olygu i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae Elaine wrthi’n datblygu ei hoffter o bensaernïaeth Ysguboriau Iseldiraidd, a sŵn ceiliog.
Peter Harding
Trysorydd
–
Veronica Crick
Ymddiriedolwr
–
Sarah James
Ymddiriedolwr
–
Jessica Powell
Ymddiriedolwr
–
Tracy Ogden Davies
Ymddiriedolwr
Stephen Brooks
Ymddiriedolwr
–
Joanne Gauden
Ymddiriedolwr
–
Sandra Gibbins
Ymddiriedolwr
–
Phillip Hughes
Ymddiriedolwr
–
Simon Browne
Ymddiriedolwr