Cwrdd â’r Artistiaid

CORNEL CELF CYMUNEDOL
CWRDD Â’R ARTISTIAD
7 MAI, 5-7YP

 

Cynhelir ein sesiwn Cwrdd â’r Artistiaid nesaf ar ddydd Mawrth 7 Mai, 5-7pm

 

Mae hon yn sesiwn rannu, dewch ag enghreifftiau o waith yr hoffech ei rannu a’i drafod, boed gwaith ar fynd, y cynnyrch terfynol, neu syniad cychwynnol / braslun.

 

Ers cychwyn ym mis Mai 2023, mae Cwrdd â’r Artistiaid wedi dod ag artistiaid a gwneuthurwyr ynghyd, i rannu gwaith a chynnig cefnogaeth trwy gyflwyniadau am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, cynnal gweithdai, mynd at orielau a meddwl am ddyfodol y celfyddydau yng Nghwmbrân.

 

Byddwn yn darparu lluniaeth ym mhob sesiwn.

Y SESIYNAU NESAFP

2 Ebrill – Ffeltio Nodwydd
7 Mai – Sesiwn Rannu
4 Mehefin – Tynnu Llun eich Gwaith
2 Gorffennaf – Sesiwn Rannu

 

Ni fydd sesiwn ym mis Awst

Os ydych yn meddwl dod ac mae gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni. E-bostiwch y tîm ar [email protected], ffoniwch ni ar 01633 483321, neu galwch heibio am sgwrs.

Mae Cwrdd â’r Artistiaid yn gyfle i ddod ynghyd ag artistiaid eraill i greu cymuned artistig gefnogol, datblygu sgiliau a gwybodaeth, a’ch ysbrydoli yn eich ymarfer. Mae’r sesiynau hyn yn croesawu’r holl artistiaid, p’un a ydych yn artist cadair freichiau neu’n creu celf fel eich proffesiwn.