Dylan Thomas and Other Dreams

ORIEL 1
DYLAN THOMAS AND OTHER DREAMS – BONNIE HAWKINS
18 MAI – 10 AWST

 

Mae’r artist a’r darlunydd Bonnie Hawkins yn cyflwyno arddangosfa solo o luniau hynod fanwl a ysbrydolir gan gymeriadau Dan y Wenallt, fel y’u dychmygwyd gan y bardd chwedlonol Dylan Thomas.

 

Mae’r chwarae ar eiriau, yr hiwmor, a chymhlethdod y cyflwr dynol a ddarlunir yng ngeiriau Dylan, ynghyd ag aelodau teulu a ffrindiau a eisteddodd ar gyfer y portreadau, wedi ysbrydoli Bonnie i greu cyfres o dros 30 o luniau pensil manwl iawn sy’n rhoi cipolwg agos ar ei bywyd hithau ac ar waith Dylan Thomas.

 

“Mae Dan y Wenallt yn croesi ffiniau gwledydd a diwylliant i gyrraedd calon llawer o bobl. Gallwn bob un weld adlewyrchiadau ohonom ni ein hunain yn ei thudalennau. Pan glywais Dan y Wenallt am y tro cyntaf, teimlais gydnawsedd â hi ar unwaith oherwydd bod y testun yn adlewyrchu fy mywyd a’m perthnasoedd innau. Roeddwn yn gallu gweld mymryn o bob cymeriad – er mor rhyfedd y gallan nhw ymddangos yn y ddrama – mewn pobl go iawn roeddwn yn eu hadnabod.” – Bonnie Hawkins

Trwy ddod â chelf a llenyddiaeth at ei gilydd, mae Dylan Thomas and Other Dreams yn ddathliad o greadigrwydd, ac mae’n adlewyrchu angerdd Bonnie dros symbylu pobl eraill. P’un ai rydych yn ysgrifennu, tynnu lluniau, sgriblo, neu fraslunio, mae’r arddangosfa hon yn dangos nad oes angen offer drud i wneud celf – y cyfan sydd ei angen yw gafael mewn pensil a gweld i ble mae’n eich arwain.

 

“Y pensil yw’r mwyaf egalitaraidd o’r holl offer artistig, mae bron bob un ohonom yn gallu cael hyd i bensil diymhongar, rhad – dyna ble rydym yn dechrau fel plant. Trwy dynnu’r lluniau hyn i gyd â llaw, rwy’n gobeithio dangos i artistiaid uchelgeisiol eraill nad oes angen meddalwedd ddrud i greu celf.” – Bonnie Hawkins

 

Cynhelir digwyddiad agoriadol yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 18 Mai, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 10 Awst 2024.