Dancing Outside Opens the Road

DANCING OUTSIDE OPENS THE ROAD
ADÉỌLÁ DEWIS + CATRIONA ABUNEKE

Mae Dancing Outside Opens the Road gan yr artist Adéọlá Dewis a’r ffotograffydd Catriona Abuneke ar gyfer ein Horiel Bwrdd Posteri yn 2022.

 

Cafodd y darn hwn ei ysbrydoli gan hanes ffermio Cwmbrân a’i chysylltiadau â’r diwydiant tun, ac roedd yn dangos y tebygrwydd rhwng y rhain ac elfennau o’r duwdod Ogun, duw haearn, metel a gwaith metel yr Iorwba yng Ngorllewin Affrica.

“Teimlais fod y cyfosodiad hwn wedi helpu i gysylltu fy estheteg benodol ag uniondeb y dref Gymreig hardd hon. Mae’r gwaith hwn yn dyst i fy angerdd dros anrhydeddu menywod a thros greu’r cyfle i’w dathlu trwy drawsnewid.” – Adéọlá Dewis

 

Mae’r trawsnewid yma yn cyfeirio at y defnydd o wisgoedd ac addurniadau. Dyluniwyd y ffedog ar linellau syml a darluniwyd pob gwisg i gynnwys elfen o linellau a symbolau a fyddai’n cael eu hailwneud – ysbrydolwyd hyn gan y vévé (darlun) o Ogun.

Cydweithiodd yr artist Naz Syed o Creative Lives yn agos gydag Adéọlá a Catriona i greu cysylltiadau â’r gymuned leol. Gwahoddwyd pedair menyw i gymryd rhan yn y sesiwn tynnu lluniau, ac fe gipiwyd llawenydd a brwdfrydedd Tabassum Ali, Rahila Hamid, Pytsje, a Buhe Ncube a’u trawsnewid i’r ddelwedd derfynol a welwch yma.

Dancing Outside Opens the Road was on display from May 2022 – April 2024.

“Roedd Naz yn ddolen gyswllt hanfodol i’r gymuned leol, yn gwahodd menywod i gymryd rhan yn y sesiwn ffotograffiaeth. Roedd ei hymagwedd yn sythweledol ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth ddofn o’r menywod hardd a gymerodd ran. Mae Catriona yn artist ac yn ffotograffydd gwych, gydag ysbryd hael. Dangosodd sgìl, dawn a llawenydd wrth gipio a golygu’r delweddau.” – Adéọlá Dewis

“Mae cael bod yn rhan o’r prosiect bwrdd posteri cyntaf yn arbennig iawn, o fod yn rhan o’r detholiad artistiaid, i gysylltu â’r gymuned a rhannu eu storïau. Mae mor bwysig cael dod â chelfwaith mor amrywiol i’r Grange ac arddangos gwaith yn y dirwedd drefol fel y gall mwy o bobl ei brofi, a chael arddangos artistiaid a chelf amrywiol.” – Naz Syed

“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gael cymryd rhan. Oherwydd rydw i’n teimlo’n union fel pawb arall. Mae bod yn rhan o weledigaeth rhywun arall yn arbennig iawn. Mae gwneud pethau newydd i minnau yn agor fy meddwl. Mae angen yr heriau hyn arnaf y tu allan i’m gwaith a’r teulu.” – Tabassum Ali

“Mae gweld pobl o liw ar y fath raddfa yn ysbrydoledig. Y lefel honno o rymuso, o weld pobl sy’n edrych yn debyg i chi, mewn cyfrwng fel hwn, at beth gall hyn arwain? Gall greu’r pŵer i drawsnewid, i drawsnewid y byd, a’ch trawsnewid chi eich hunan.” – Andrew Ogun, Asiant er Newid, Cyngor Celfyddydau Cymru

YNGLŶN Â’R ARTISTIAID

 

ADÉỌLÁ DEWIS

Mae Adéọlá yn artist o Drinidad sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei harfer yn ymwneud â darlunio, peintio, perfformiad, ymchwil ac ysgrifennu, ac mae’n archwilio themâu fel defod, hunaniaeth, perthyn, diaspora, rhith, rhyddfreinio, dathlu, grymuso, masgio, symudiad a thrawsnewid. Ar hyn o bryd, mae arfer esblygol Adéọlá yn cynnwys peintio, patrwm a ffotograffiaeth sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ysbrydolrwydd y diaspora Affricanaidd.

 

CATRIONA ABUNEKE

Mae Catriona yn ffotograffydd, yn artist fideo ac yn athrawes. Daw o’r Alban yn wreiddiol, a hyfforddodd yn Ysgol Gelf Leith, ac yna Coleg Celf Caeredin. Mae Catriona yn athrawes Celf a Dylunio gymwysedig, mae wedi gweithio fel dylunydd graffig, darlunydd a ffotograffydd, ac mae wedi ennill y Wobr Golden Echo gan IDMA. Yn 2016, diwreiddiodd ac uwchraddiodd ei sgiliau gweledol digidol drwy ennill Tystysgrif Ôl-raddedig yn y Cyfryngau Rhyngweithiol yng Ngholeg Celf a Thechnoleg Algonquin, Ottawa, Canada. Mae Catriona yn cydweithio gyda chreawdwyr a sefydliadau eraill, gan barhau â’i harfer personol mewn ffotograffiaeth a fideo ar yr un pryd.