And Other Dreams

AND OTHER DREAMS
18 MAI, 10YB-3YP

 

Cyfres o sgyrsiau sy’n archwilio’r broses greadigol, Dylan Thomas, a chyfieithu.

 

I ddathlu agor Dylan Thomas and Other Dreams yn Oriel 1, a Cymraeg Ddrwg yn ein Horiel Bwrdd Posteri rydym yn cynnal cyfres o sgyrsiau ddydd Sadwrn 18 Mai a fydd yn archwilio’r broses greadigol, Dylan Thomas, a chyfieithu.

 

Cynhelir y sgyrsiau cyn ac ar ôl digwyddiadau agor yr arddangosfeydd newydd hyn, ynghyd â’r digwyddiadau agor yn Oriel 2, ein Caffi, a’r Cyntedd.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

PROGRAMME

Sgwrs yr Artist: Bonnie Hawkins, 10yb

 

Bydd yr artist a’r darlunydd Bonnie Hawkins yn esbonio’i hymarfer a’i phroses, yng nghanol ei harddangosfa solo newydd Dylan Thomas and Other Dreams. Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfres o dros 30 o luniau pensil tra manwl o’r cymeriadau, chwarae ar eiriau a’r hiwmor yn Dan y Wenallt, ynghyd â theulu a ffrindiau Bonnie a eisteddodd ar gyfer y portreadau.

 

Mae Bonnie Hawkins yn gweithio mewn paent olew, dyfrlliwiau a delweddau graffit, ac mae’n arbennig o frwd dros ddefnyddio’r pensil diymhongar, gan ein hatgoffa y gall offer syml, fforddiadwy arwain at greadigaethau anhygoel. Mae ei thestunau’n amrywio o dirweddau mynegiannol, celf haniaethol, bywyd gwyllt, darluniau marchogol a rhai mympwyol manwl gywir. Mae Bonnie wedi darlunio llyfrau i’r awdur rhyngwladol tra llwyddiannus Joanne Harris, yn cynnwys: A Pocketful of Crows, The Blue Salt Road, Orfeia, a Maiden, Mother, Crone.

 

Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma.

Sgwrs yr Artist: Ffion Williams, 11yb

 

Bydd yr artist Ffion Williams yn trafod eu hymarfer a’u celfwaith newydd Cymraeg Ddrwg, a fydd yn cael ei arddangos yn ein Horiel Bwrdd Posteri tan Wanwyn 2025. Mae Ffion yn chwarae gydag iaith, yn haenu testun ac yn defnyddio’u dull personol o gyfieithu i archwilio Cymreictod, protestio, a gobaith.

 

Mae Ffion yn defnyddio sain, gwaith metel a motiffau baneri protestio i greu gwaith sy’n archwilio iaith, lle, protestio a diwydianeiddio. Astudiont beintio yng Ngholeg Celf Caeredin ac arddangosont yn ein harddangosfa raddedig flynyddol, Portal, yn 2023. Mae eu gwaith yn seiliedig ar y Gymraeg a hunaniaeth.

 

Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma.

Dan y Wenallt: John Goodby, 2yp

 

Mae saith deg mlynedd wedi mynd heibio ers i ddrama Dylan Thomas, Dan y Wenallt, gael ei chynhyrchu a’i darlledu am y tro cyntaf – y cynnyrch gorau o oes aur radio yn y 1940au a’r 1950au. Ond mae’r ‘ddrama ar gyfer lleisiau’ hon sy’n ymddangos yn ddiniwed yn ymgodi o ddiwrnodau tywyll yr Ail Ryfel Byd a byd y rhyfel oer a ddaeth yn ei sgil. Mae min brathog, direidus i’w dull o drin clichés.

 

Wrth ddathlu hiwmor heulog gwaith mwyaf adnabyddus Thomas, bydd John Goodby yn archwilio’i ddynameg ryfedd a thanseiliol: mae’n gyfuniad hynod o deimlad a phathos. Wrth wneud hyn, bydd yn ateb rhai o’r cwestiynau sy’n parhau i amgylchynu Dan y Wenallt. Pam mae wedi bod mor ysbrydoledig i artistiaid eraill? Pam na wnaeth Thomas fyth ei gorffen? Pam gafodd ei pherfformio gyntaf yn yr Unol Daleithiau, ac yna’i darlledu yn Lloegr, ond nid yng Nghymru? Drwy hyn, bydd yn archwilio beth mae’r ddrama yn dweud wrthym am y cyfnod pan gafodd ei hysgrifennu a’r goleuni y gallai daflu ar fyd heddiw, gyda’i ddadleuon ynglŷn â stereoteipiau cenedlaethol a gwleidyddiaeth hunaniaeth.

 

Mae John Goodby yn feirniad, yn fardd, ac yn Athro Celfyddydau a Diwylliant ym Mhrifysgol Sheffield Hallam. Mae’n awdurdod blaenllaw ar waith Dylan Thomas, yn awdur a golygydd Dylan Thomas: A New Casebook (2001), The Poetry of Dylan Thomas: Under the Spelling Wall (2013), yr argraffiad canmlwyddiant o Dylan Thomas’s Collected Poems (2014), Discovering DylanThomas (2017) a The Fifth Notebook of Dylan Thomas (2020). Bydd ei gofiant o Dylan Thomas ar gyfer Reaktion Books yn cael ei ryddhau yn Nhachwedd 2024.

 

Bwciwch le am ddim drwy Eventbrite yma.

Digwyddiad Agoriadol: 12-2pm

 

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad agor ein set nesaf o arddangosfeydd o 12-2pm, yn cynnwys yr arddangosfa solo, Dylan Thomas and Other Dreams gan Bonnie Hawkins yn Oriel 1; Cymraeg Ddrwg, y gwaith ar raddfa fawr newydd gan Ffion Williams yn ein Horiel Bwrdd Posteri; Gŵyl Grefft: Enillwyr Gwobrau, arddangosfa grŵp o wneuthurwyr i ddathlu 20 mlwyddiant Gŵyl Grefft yn Oriel 2; OpenTorfaen, arddangosfa yn ein Caffi o waith artistiaid sy’n byw yn Nhorfaen; ac arddangosfa grŵp gan fyfyrwyr y Radd Sylfaen Artist Dylunydd Gwneuthurwr yng Ngholeg Gwent Crosskeys yn ein cyntedd.