GWEITHGAREDDAU GWYLIAU’R GWANWYN
15 – 23 EBRILL 2025
Dros y Pasg eleni rydym yn rhedeg cyfres o weithgareddau creadigol i oedolion, pobl ifanc, teuluoedd, a phlant 5+ oed
CREFFTAU BLODAU
15 + 22 EBRILL
Ymunwch â ni ar 15 a 22 Ebrill rhwng 10am -12pm a 1-3pm am sesiynau creadigol am ddim i’r Teulu.
Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser
Dydd Mawrth 15 Ebrill Torchau’r Gwanwyn
Dewch draw i ddefnyddio papur i wneud torch wanwyn wedi’i ysbrydoli gan natur.
Dydd Mawrth 22 Ebrill – Dolydd Bach
Cyfle i ddefnyddio ffabrig i greu dolydd bach y gwanwyn.
Cynhelir y sesiynau hyn rhwng 10yb-12yp a 1-3yp
Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, fellly dewiswch un slot wrth fwcio.
Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

GWNEUD GOFALGAR
16 + 23 EBRILL
Ymunwch â ni ddydd Mercher 16 a 22 Ebrill 10yb-12yp a 1 – 3yp, am weithgaredd ymwybyddiaeth ofalgar creadigol ‒ sesiwn galw heibio am ddim yn ein horielau ar y llawr gwaelod.
Dydd Mercher 16 Ebrill – Defnyddio Dull Zentangle i Greu Wyau
Yn ystod y sesiwn byddwn yn defnyddio dull zentangle i greu wyau’r ŵyl.
Dydd Mercher 23 Ebrill – Cymeriadau Wyau!
Cyfle i greu eich cymeriadau wyau eich hun. Ffres, amrwd, wedi coginio neu rhai siocled? Penderfynwch chi…
Dewch yn eich blaen i ymlacio a gwneud wrth eich pwysau mewn man digyffro, hamddenol.
Mae’r gweithgareddau hyn ar gyfer oedolion a phobl ifanc 5+ sydd eisiau archwilio’u creadigrwydd mewn lleoliad artistig a chyfforddus.
Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.
Os hoffech gefnogi Llantarnam Grange, gwnewch rodd yma, neu mewn person. Y rhodd awgrymedig yw £2 y pen.
