ORIEL 1
PORTAL 2024
24 AWST – 16 TACHWEDD
Portal yw ein harddangosfa flynyddol o grŵp o artistiaid a gwneuthurwyr graddedig, a’i nod yw datgyfrinio gweithio yn y celfyddydau. Trwy roi cymorth, offer a’r cyfle i ddatblygu sgiliau i leisiau newydd, mae Portal yn ymestyn y tu hwnt i waliau’r oriel gan roi’r cychwyn gorau posibl i artistiaid datblygol wrth iddynt sefydlu gyrfaoedd cynaliadwy.
Trwy amrediad o ymarferion sy’n amrywio o gerameg, dur, tecstilau, ffotograffiaeth a gosod, mae Portal 2024 yn arddangos casgliad o waith 14 o raddedigion eleni. Daw’r artistiaid o sefydliadau Cymreig fel Met Caerdydd, PCDDS Abertawe, Ysgol Gelf Caerfyrddin, Ysgol Gelf Aberystwyth, a phrifysgolion cenedlaethol fel Coleg Celf Henffordd, Ysgol Gelf Glasgow a Phrifysgol Caeredin. Gobeithiwn y bydd yr arddangosfa hon yn cipio’r syniadau a’r ysbryd cyfunol sy’n dod allan o ysgolion celf eleni.
Mae’r gwaith a arddangosir yn dangos symudiad rhwng y tu mewn a’r tu allan, lle mae’r artistiaid yn troi at natur a lleoedd domestig i ystyried yr hyn y gall y pethau bach personol ddweud wrthon ni am y byd ehangach, a sut gall ein hamgylchedd a’n tirwedd lunio pwy ydyn ni.
Trwy ddweud storïau a llunio naratifau, mae rhai yn defnyddio cymeriadau i fynegi arsylwadau ar ragfarn dosbarth, neu i adlewyrchu’r profiad o fod yn awtistig. Mae eraill yn ystyried eu hanesion a’u teuluoedd, gan rannu cipolygon ar eu plentyndod, bywyd cartref, a’u profiadau o fewnfudo ac ailsefydlu.
Mae bywyd domestig yn thema a rennir, gyda’r artistiaid yn myfyrio ar eu harferion, eu perthnasoedd a’r gwrthrychau maent yn rhyngweithio â nhw, i amlygu’r pethau sy’n ddinod ac yn sentimental ar yr un pryd.
Gan symud allan i’r awyr agored, i fyd natur, gellir gweld sut mae’r elfennau ailadroddus mewn bywyd bob dydd yn ymddangos yn ein hamgylchedd hefyd, ynghyd ag yn y broses wneud. O’r ffordd gywrain mae corynod yn gweu eu gweoedd, a’r broses erydu barhaus, i dechnegau gwneud printiau, brodwaith a chrosio: gwelir ymrwymiad obsesiynol i greadigrwydd ym mhob un.
Gan fod llawer o’r artistiaid yn cael eu hysbrydoli gan fynegiadau o ofal, arferion bob dydd, a’r teithiau a’r profiadau sy’n ein gwneud pwy ydyn ni, mae Portal 2024 yn creu portread personol sy’n eich annog i fyfyrio ar eich safbwynt eich hunan a neilltuo amser i ddeall profiad pobl eraill.
Cyflwynir gwaith gan:
Alex Holland, Alice Banfield, Bethan Hughes Jones, Elin Crowley, Emma Andrews, Gwilym Pearce Jones, Janina Bacchetta, Jennifer Hodgeman, Lena Jajawi, Lucy Jones, Mary Chris, Militsa Milenkova, Rhi Christie, Stuart Taylor
Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 24 Awst 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 16 Tachwedd 2024.
CATALOG YR ARDDANGOSFA
Gweler y Catalog Saesneg yma.