Practice in Place

ORIEL 2
PRACTICE IN PLACE
24 AWST – 16 TACHWEDD

 

Mae Practice in Place yn arddangosfa grŵp a drefnwyd ac a guradwyd gan ein Panel Cynghori Ieuenctid, ac sy’n amlygu eu gwaith. Mae’n dod â chelfwaith gan bum artist ar wahanol gamau cynnar o’u gyrfaoedd at ei gilydd, gan arddangos pob un o’u harferion a’u diddordebau unigryw, o arlunio, peintio, cerameg, fideo a brodwaith.

 

Ar sail eu hysbrydoliaeth gyffredin, sef ymdeimlad o le, mae pob artist yn archwilio gwahanol themâu, yn cynnwys: tirwedd, llên gwerin, hunaniaeth, perthyn, hanes cymdeithasol a diwylliant yng Nghymru, gan arddangos eu hymroddiad i’w hymarfer creadigol trwy ddatblygu sgiliau ac arbrofi manwl.

 

Cyflwynir gwaith gan: Elliot Powell, Emily Miles, Iris Murray, Niamh O’Dobhain a Rosie Merriman.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 24 Awst 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 16 Tachwedd 2024.

PANEL CYNGHORI IEUENCTID

 

Mae’r Panel Cynghori Ieuenctid yn grŵp rheolaidd a ffurfiwyd yn 2021 fel y gall pobl ifanc 16-25 oed gael dealltwriaeth a phrofiad o’r hyn mae gweithio yn y celfyddydau yn ei olygu. Maent yn cefnogi Llantarnam Grange drwy gynghori ar ein rhaglennu, polisïau, gweithdrefnau, a thrwy hyn mae eu lleisiau’n rhan hanfodol o’n llywodraethu. Rydym yn gweithio gyda nhw i gyd-ddatblygu rhaglen hyfforddi a chyfleoedd, yn cynnwys gweithdai, datblygu sgiliau ac arddangosfeydd.

 

Os ydych yn 16-25 oed ac mae diddordeb gennych mewn ymuno â’n Panel Cynghori Ieuenctid, cewch fwy o wybodaeth a chyfle i ymgeisio yma.