ORIEL 2
PRETTY – JESS PARRY
04 CHWEFROR – 22 EBRILL

 

Mae’r arddangosfa solo hon gan yr artist Cymreig lleol, Jess Parry, yn rhannu cyfres newydd o waith sy’n cyfuno collage, brodwaith a deunyddiau hapgael i lunio ffurfiau benywaidd afluniaidd.

 

Mae Jess yn cael ei chyfareddu gan y bryntni a’r cnawd sy’n ein gwneud yn fodau dynol. Trwy beintio, darlunio, cerflunwaith, perfformiad a’r cyfryngau digidol, mae’n herio’r ideoleg sy’n amgylchynu rhannau o’r corff benywaidd er mwyn datguddio’r elfen grotésg.

Yn Pretty, mae wedi ehangu ei hymarfer i archwilio brodwaith, sef crefft gartref sy’n ryweddol yn nodweddiadol. Trwy ei phwythau, mae Jess yn tarfu ar ddisgwyliadau a thraddodiadau, gan greu gwaith sy’n swyno’n arswydus trwy broses a ystyrir fel rheol yn un hardd a heddychlon, yn hytrach nag un ingol a gwrthdrawiadol.

 

Mae’r llaw a chyffwrdd yn chwarae rhan bwysig yng ngwaith Jess. Trwy olrhain y tebygrwydd rhwng llaw’r artist a llaw’r cigydd, y wniyddes a’r llawfeddyg, mae’n asio’u dulliau gweithredu, gan gyfuno creu a meinder â thrais ac agosatrwydd.

 

Yn y gwaith hwn, mae Jess yn dyrannu’r corff dynol, gan chwyddo mewn i astudio’i fanylion. P’un ai ei bod yn archwilio dwylo, ewinedd neu gegau, mae’r ffocws ar ein disgwyliad y bydd pob elfen yn berffaith a thlws, er iddynt gael eu hanwybyddu’n aml mewn bywyd bob dydd. Mae Jess hefyd yn archwilio goddrychedd, gan fod yr hyn sy’n ddiffygion i rai yn harddwch i eraill. Mae hyn yn ein harwain at y cwestiwn o sut rydym yn ymdeimlo â’r corff, ac yn ei ddeall? Ydy e’n bodoli fel syniad rydym yn ei lunio a’i ddelfrydu yn ein dychymyg ein hunain? Neu a ydy e’ wedi’i gyfyngu i’n realitioedd corfforol personol, y symudiad, y poenau, a’r prosesau rydym yn eu cyflawni ac yn eu corffori’n barhaus.

 

Bydd agoriad yn yr oriel Ddydd Sadwrn 4 Chwefror, 12-2yp, bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 22 Ebrill 2023.

 

Mae Jess yn aelod o’n Panel Cynghori Ieuenctid, ac roedd yn rhan o Portal, ein sioe raddedigion flynyddol yn 2020.

GWEITHDAI

 

Bydd Jess yn cynnal gweithdy brodwaith galw heibio ddydd Sadwrn 11 Mawrth, 10am-12pm yn Oriel 2. Cynhelir y sesiwn yng nghanol ei harddangosfa bresennol, Pretty, a bydd yn creu man lle gellir myfyrio ar yr amrywiaeth o ffurfiau benywaidd, mynegiant rhywedd, a phrofiadau, i gydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

 

Bwriad y gweithdy hwn yw creu man diogel a chynhwysol i bawb.