ORIEL 1
WALTER KEELER
4 CHWEFROR- 22 EBRILL

 

Mae Walter Keeler yn grochenydd byd-enwog ac mae’n creu darnau defnyddiol sy’n archwilio’r potensial cerfluniol mewn dylunio ymarferol. Mae ei ddiddordeb mewn potiau yn hanu o’i blentyndod pan fyddai’n chwilota ynghanol y mwd ar hyd glannau llanw Afon Tafwys. Mae’r darnau o gerameg y deuai ar eu traws wedi ennyn ei frwdfrydedd dros hen botiau, ac yn isganfyddol, daethant yn allwedd dactegol i ddulliau crochenyddion yr oesoedd a fu. Mae’r ymdeimlad hwn o draddodiad yn greiddiol i waith Walter.

 

“Roedd blaendraeth Afon Tafwys yn frith o ddarnau o briddwaith gwydredd halen, o grochenwaith croen oren â slip coch i ddarnau o Westerwald â sbrigynnau llwyd a glas. Roedd yna ddarnau gwydredd halen gwyn Swydd Stafford hefyd, a chrochenwaith lliw hufen Whieldon o ganol y 18fed ganrif, a phob un yn dangos sut oedd y gwneud yn llywio’r clai.”

Boed cael ei lunio pan yn ystwyth neu ei droi ar durn pan ei fod mor galed â lledr, mae ymateb y clai i’r llaw neu i erfyn yn cynnig posibiliadau di-rif ar gyfer dychymyg y gwneuthurwr. Mae deall sut y gall wyneb potiau wedi’u tanio adlewyrchu a helaethu natur y clai a’i fwriadau creadigol yn rhan annatod o waith Walter. O’i obsesiwn cyntaf â hud adweithiol tanio gwydredd halen i ffresni a choethder priddwaith gwyn, mae Walter yn ymhyfrydu yn nirgelwch, drama a chyd-destun y prosesau hyn ‒ eglurder ymarferol y gwydredd halen brown wedi’i adlewyrchu yn ei grochenwaith halen neu ecsentrigrwydd mympwyol crochenwaith hufen Swydd Stafford o’r 18fed ganrif ‒ sy’n peri iddo ddilyn trywydd mwy pryfoclyd, chwareus yn ei briddwaith.

 

“Rwy’n gwneud pethau defnyddiol fel mygiau a jygiau sy’n dod â phleser a diddanwch i fywyd bob dydd. Mae rhai potiau’n cael eu ffurfio fel cerfluniau, gan chwarae ag elfennau, deunyddiau a phrosesau ‒ mae hyn yn arwain at ddarnau rhyfeddol sy’n herio’u defnyddwyr i wneud iddynt weithio. Rwy’n gobeithio bod fy nghrochenwaith yn dod â hiwmor a phleser synhwyraidd er gwaethaf y ffaith eu bod weithiau’n edrych yn syml.”

 

Mae Llantarnam Grange wedi cydweithio gyda Walter ers dros 30 mlynedd, gan ddangos ei waith mewn arddangosfeydd grŵp, sioeau crefft a digwyddiadau arddangos cenedlaethol, fel y Ceramic Celebration – South Wales Potters, 2014; a Gŵyl Grefftau Cheltenham. Mae wedi bod yn ffrind cefnogol i’r Grange ac mae’n bleser cael dathlu ei waith yn yr arddangosfa solo hon.

 

Cynhelir digwyddiad agor y sioe yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 4 Chwefror, 12-2yp, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 22 Ebrill 2023 (pen-blwydd Walter yn 81 oed!!)