HELPWCH NI I WIREDDU’R NOD

Fel elusen, mae Llantarnam Grange yn llwyr ymroddedig i ddarparu mynediad at ddiwylliant, a chyfleoedd i bobl Torfaen a’r tu hwnt chwarae rhan a chael boddhad drwy greadigrwydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae X o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithdai, mae X o artistiaid wedi arddangos yn ein horielau, ac rydyn ni wedi datblygu X prosiect partneriaeth, gan gyrraedd mwy o bobl ledled y sir a’r wlad.

Allwn ni ddim gwneud hyn heb gymorth. Gall eich cyfraniad chi gael effaith fawr, a sicrhau bod modd i ni ysbrydoli mwy o bobl i fod yn greadigol.

Gyda’n gilydd, gallwn barhau i ysbrydoli drwy weithdai ac arddangosfeydd, a helpu i wneud Torfaen yn ganolfan o greadigrwydd, fel rydyn ni’n ei hadnabod!

LLOGI YSTAFELLOEDD

Mae Llantarnam Grange yn safle unigryw a nodedig, sydd mewn lleoliad cyfleus yng nghanol Cwmbrân, ac sy’n berffaith ar gyfer digwyddiad, cyfarfod neu barti preifat.

Mae Ystafell Zobole ac Ystafell Selway yn cynnwys nifer o weithiau o Gasgliad Parhaol Llantarnam Grange, ac mae yna gysylltiad di-wifr, sgriniau taflunio a siartiau troi. Darperir arlwyo gan Gaffi hyfryd Llantarnam Grange, felly beth bynnag sydd gennych mewn golwg, mae croeso i chi gysylltu â ni:

Gofynwch amdan llogi ystafelloedd yma

Drwy Logi Ystafell, rydych chi’n cefnogi ein gwaith fel elusen yn uniongyrchol, felly diolch i chi am ddewis cefnogi Llantarnam Grange drwy gynnal eich cyfarfod, dosbarth, neu ddigwyddiad gyda ni!

GWIRFODDOLI

Mae gwirfoddoli eich amser yn ffordd wych o gefnogi Llantarnam Grange, dysgu mwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud, a datblygu eich sgiliau ar yr un pryd!

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfeirio a sgwrsio gyda’n hymwelwyr, yna mae’n bosib y bydd gennych ddiddordeb mewn bod yn Gynorthwyydd Gwasanaethau Ymwelwyr Gwirfoddol

Neu os oes rhywbeth arall y gallwch ei gynnig gyda’ch sgiliau unigryw, bydden ni’n falch iawn o sgwrsio am sut gallwn ni gefnogi ein gilydd. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy

Gofynwch amdan gwirfoddoli yma