Canllaw Mynediad
Mae Llantarnam Grange yn ganolfan celf a chrefft am ddim yng Nghwmbrân. Mae’n darparu man cymdeithasol i ymwelwyr rheolaidd ac achlysurol, ac yn cynnig ysbrydoliaeth trwy raglen o arddangosfeydd a gweithgareddau creadigol.
Mae’r adeilad yn faenordy o’r 19eg ganrif, sy’n golygu bod yna rai rhwystrau i fynediad. Mae’r staff yn gweithio’n barhaus i wneud newidiadau fel bod yr adeilad yn fwy hygyrch ac yn ymaddasu i anghenion ymwelwyr.
Os ydych yn ystyried ymweld â ni, bydd y fideo a’r canllaw mynediad isod yn eich helpu i gynllunio eich ymweliad.
Canllaw Mynediad
Hygyrchedd Olwynion
Mynedfa
Mae gris bychan tua 4 modfedd (10cm) o uchder i fynd i mewn i’r adeilad. Mae ramp cludadwy ar gael y gallwn ei osod cyn eich ymweliad neu pan fyddwch yn cyrraedd. Os oes angen cymorth arnoch, cnociwch y drws, neu gwasgwch y gloch islaw’r handlen, a bydd aelod staff yn dod i’ch helpu.
Llawr Gwaelod
Mae’r holl lawr gwaelod yn gwbl hygyrch i olwynion.
Ar y llawr gwaelod mae’r Cyntedd, Siop Grefftau, Caffi, toiledau a 2 Oriel. Mae i’r ddesg dderbyn ran is hygyrch.
Llawr Cyntaf
Ar y llawr cyntaf mae’r Ystafell Ddysgu, Ystafell Selway ac Ystafell Zobole. Yn anffodus, nid yw’r ystafelloedd hyn yn hygyrch i olwynion ar hyn o bryd.
Os hoffech fwcio lle mewn gweithgaredd sy’n digwydd yn ein Hystafell Ddysgu ond rydych yn methu cyrchu’r llawr cyntaf, cysylltwch â ni dros y ffôn, drwy e-bost, neu galwch heibio, ac efallai gallwn ei symud i un o’n mannau i lawr y grisiau. Fodd bynnag, oherwydd natur rhai arddangosfeydd a gweithdai nid yw hyn bob amser yn bosibl ‒ ond fe wnawn ein gorau i’ch helpu.
Parc Bygis
Nid oes gennym barc bygis, a does dim llawer o le, ond gofynnwch os hoffech adael bygis wrth ochr y ddesg dderbyn.
Anifeiliaid Cymorth
Mae croeso i gŵn tywys a chŵn cymorth cofrestredig ond rhaid eu cadw ar dennyn bob amser.
Cyfathrebu
Dolen Sain
Mae gennym ddwy ddolen sain: mae un ger y ddesg dderbyn, ac ar hyn o bryd mae un gludadwy yn yr Ystafell Ddysgu.
Iaith
Mae sawl aelod staff yn ddysgwyr Cymraeg gyda sgiliau llafar Cymraeg lefel mynediad, ac mae gan un aelod staff sgiliau lefel mynediad mewn Iaith Arwyddion Prydain. Mae nifer o aelodau staff wedi cael hyfforddiant ffrindiau dementia hefyd.
Mae ein harwyddion, labeli a’n gwybodaeth drwy’r holl adeilad yn ddwyieithog Cymraeg a Saesneg.
Print bras
Mae labeli a dehongliadau mewn print bras ar gael ar gais wrth y ddesg dderbyn.
Mae bwydlenni mewn print bras ar gael ar gais wrth gownter y Caffi.
Mae cloc digidol ffont mawr yn yr Ystafell Ddysgu.
Taliadau
Derbynnir taliadau cerdyn ac arian parod wrth y ddesg dderbyn a chownter y Caffi.
Synhwyraidd
Fel rheol, mae Llantarnam Grange yn amgylchedd tawel a digyffro.
Gall celfwaith sain neu sainluniau fod yn rhan o rai arddangosfeydd, a gall y rhain fod yn swnllyd weithiau. Mae gennym nifer o grwpiau rheolaidd, ystafelloedd wedi hurio a gweithdai ysgol sy’n cael eu cynnal i fyny’r grisiau o bryd i’w gilydd. Gall y sesiynau hyn hefyd fod yn swnllyd weithiau.
Gall goleuadau yn y mannau arddangos fod yn oleuach neu’n dywyllach nag yng ngweddill yr adeilad, yn dibynnu ar y gwaith ac ar ddewis yr artist sy’n arddangos.
Weithiau byddwch yn clywed aroglau bwyd o gwmpas yr adeilad, mae hyn am fod yr holl fwyd yn cael ei goginio ar y safle.
Seddau
Mae nifer o seddau drwy’r holl adeilad.
Mae croeso i ymwelwyr ddefnyddio’r bwrdd a’r cadeiriau yn Oriel 2 os ydynt ar gael.
Yn union y tu mewn i’r drws ffrynt mae gennym fainc fechan.
Mae’r Caffi yn cynnwys seddau dan do ynghyd â seddau tu allan pan fod y tywydd yn gynhesach.
Cymorth Cyntaf
Mae blychau Cymorth Cyntaf yn yr Ystafell Ddysgu ac yn y Caffi, ac mae’r staff wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf.
Mae gennym dri chynorthwyydd cyntaf iechyd meddwl.
Toiledau
Mae’r toiledau i lawr coridor rhwng y Siop Grefftau a’r Cyntedd.
Mae’r toiledau cyntaf yn cynnwys 3 troethle ac un ciwbicl.
Mae’r toiledau nesaf yn cynnwys 2 giwbicl, eitemau mislif ac un bin gwaredu eitemau mislif.
Mae’r toiled ar ddiwedd y coridor yn giwbicl hygyrch rhywedd-niwtral, gyda botwm gwthio i’w agor ar y wal ar y chwith. Bydd y drws yn cau’n awtomatig ar ôl cyfnod byr.
Mae’r toiled hygyrch yn cynnwys canllawiau cymorth, silff bag colostomi, larwm argyfwng cortyn tynnu, cyfleusterau newid babanod, poti, eitemau mislif a bin gwaredu eitemau mislif.
Mae i bob toiled loriau gwrthlithro a goleuadau awtomatig.
Mae toiled Changing Places gerllaw, yn uwchfarchnad Asda yng nghanol tref Cwmbrân.
Caffi
Alergeddau neu Anghenion Deietegol
Os oes gennych unrhyw alergeddau neu ofynion dietegol, siaradwch â staff y caffi pan fyddwch yn archebu. Mae pob aelod o staff y caffi wedi derbyn hyfforddiant ar alergenau.
Mae opsiynau fegan a llysieuol wedi’u labelu ar y fwydlen ac mae gwahanol fathau o laeth planhigion ar gael.
Mae’r peiriant espresso yn cael ei lanhau rhwng pob coffi a defnyddir jygiau cod lliw gwahanol ar gyfer pob math o laeth. Defnyddir offer cod lliw hefyd yn y gegin ar gyfer alergeddau.
Mae eitemau glwten isel ar gael; fodd bynnag, ni allwn warantu 100% heb glwten, ond mae’r tîm yn cymryd pob rhagofal i atal croeshalogi.