Mae Llantarnam Grange yn faenordy Fictoraidd sy’n lleoliad unigryw a gwahanol gyda’i nodweddion gwreiddiol a’r celfwaith hardd.
Rydym mewn man cyfleus yng nghanol tref Cwmbrân, ac yn lle perffaith ar gyfer unrhyw ddigwyddiad preifat, cyfarfod, neu barti.
Drwy Logi Ystafell, rydych chi’n cefnogi ein gwaith fel elusen yn uniongyrchol, felly diolch i chi am ddewis cefnogi Llantarnam Grange drwy gynnal eich cyfarfod, dosbarth, neu ddigwyddiad gyda ni!
Prisiau Hurio Ystafelloedd
£9.50 yr awr i elusennau/grwpiau cymunedol bach
£12.50 yr awr i fusnesau/elusennau mawr, neu sefydliadau
Gellir hurio ein hystafelloedd dydd Llun – dydd Sadwrn o 9am-4pm.
£10.00 – Hurio teledu, siart troi, taflunydd a sgrin
Mae Wi-Fi am ddim yn ein holl ystafelloedd. Gallwn ddarparu siart troi a sgrin deledu yn yr Ystafell Ddysgu/ Selway, a thaflunydd a sgrin yn Ystafell Zobole, am bris ychwanegol.
Darperir cyfarwyddiadau ar sut i gysylltu’r taflunydd a’r teledu.
Arlwyo
Gallwn ddarparu arlwyo trwy fwydlen bwffe unigryw neu gyffredinol ein caffi, a bydd manion ychwanegol ar gael am bris ychwanegol, neu gallwch archebu o’n Bwydlen Dymhorol. Rhaid rhoi o leiaf 48 awr o rybudd.
Mae ein Caffi mewnol ar agor 9.30 – 3.30, a derbynnir yr archebion bwyd olaf am 2.30pm.
Canslo
Os nad ydych eisiau hurio ystafell bellach, cysylltwch â ni. Noder, os byddwch yn canslo o fewn 2 wythnos cyn eich bwciad, bydd rhaid talu 50% o gyfanswm eich ffi bwcio, ac os byddwch yn canslo o fewn 1 wythnos bydd rhaid talu 100% o’ch ffi bwcio.
Bydd hyn yn cynnwys unrhyw gostau arlwyo.
Hygyrchedd
Noder: oherwydd natur hanesyddol ein hadeilad, ar hyn o bryd nid oes mynediad i’r anabl i’n hystafelloedd i’w hurio ar y llawr cyntaf.
Cewch wybod mwy ynglŷn â beth i’w ddisgwyl a gwybodaeth am fynediad yma, neu cysylltwch â ni drwy e-bost yn hello@llantarnamgrange.com neu ffoniwch 01633 483321 gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.
Ein Hystafelloedd
Ystafell Selway
Ystafell Selway
Lleolir ein Hystafell Selway ar y llawr cyntaf, ac mae’n arddangos gwaith yr artist Cymreig, John Selway (1938-2017).
Mae lle i hyd at 12 o bobl yn yr ystafell eang a chyfforddus hon ar ffurf ystafell fwrdd neu hyd at 24 ar gyfer darlithiau gyda’n cadeiriau plygu â chlustogau.
Gallwn ddarparu siart troi a sgrin deledu am bris ychwanegol.
*Ni chodir tâl am yr ystafell hon pan ddefnyddir ar gyfer lluniaeth ac/neu bwffe yn unig.
Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â gwaith John Selway, a’n Casgliad Parhaol yma.
Ystafell Zobole
Ystafell Zobole
Lleolir ein Hystafell Zobole ar y llawr cyntaf amryw-lefel ac mae’n cynnwys sawl darn o gelfwaith o’n casgliad parhaol, yn cynnwys darn gan y peintiwr Cymreig Ernest Zobole (1927-1999), yr enwyd yr ystafell ar ei ôl.
Mae lle i hyd at 20 o bobl yn yr ystafell hon ar ffurf ystafell fwrdd neu hyd at 35 ar gyfer darlithiau gyda’n cadeiriau plygu â chlustogau.
Mae ynddi sinc gudd hefyd sy’n golygu ei bod yn addas ar gyfer gweithgareddau creadigol. Fodd bynnag, mae ein Hystafell Ddysgu yn fwy addas ar gyfer gweithgareddau celf a chrefft.
Gallwn ddarparu siart troi, taflunydd a sgrin am bris ychwanegol.
Yr Ystafell Ddysgu
Yr Ystafell Ddysgu
Lleolir ein Hystafell Ddysgu ar y llawr cyntaf, ac mae’n fan perffaith i gynnal eich gweithdai neu grwpiau celf a chrefft.
Mae tri bwrdd mawr y gellir eu rhoi gyda’i gilydd neu eu gosod ar wahân ac mae lle i hyd at 30 o bobl, yn dibynnu ar sut hoffech ddefnyddio’r ystafell. Gellir sychu’r byrddau a’r llawr ac mae dwy sinc ar gael sy’n addas ar gyfer golchi offer a dwylo.
Gallwn ddarparu siart troi a sgrin deledu am bris ychwanegol.
Cysylltu
Os hoffech weld ein hystafelloedd cyn bwcio, cysylltwch â ni fel y gallwn drefnu ymweliad pan fydd ein hystafelloedd yn rhydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, neu hoffech fwcio ystafell, cysylltwch â ni drwy e-bost yn hello@llantarnamgrange.comneu ffoniwch 01633 483321.