Amseroedd Agor

Arddangosfeydd + Siop Grefftau: Dydd Llun — Dydd Sadwrn 9.30yb – 4.00yp

Caffi: Dydd Llun — Dydd Sadwrn, 9.30yb – 3.30yp

(Archebion bwyd olaf am 2.30yp)

Ar gau ar wyliau banc

Cyfeiriad

Llantarnam Grange

Hoel Dewi Sant

Cwmbrân

NP44 1PD

Cyrraedd Yma

Mae Llantarnam Grange ar Heol Dewis Sant, ar ben pellat dreif breifat fer yng nghanol tref Cwmbrân.

Ar Gerdded

Mae cyrbiau isel i’r palmentydd ac mae dwy groesfan i gerddwyr rhyw ychydig i’r chwith ac i’r dde o’r adeilad.

 

Bws

Mae gorsaf fysiau ganolog Cwmbrân (gyda gwasanaethau i Gasnewydd, Caerdydd, Y Fenni) y tu ôl i’r adeilad – cyrchir hon ar hyd ramp neu risiau a chroesfan gerddwyr. Mae’r safle bysiau agosaf ar ben y dreif breifat, o flaen yr adeilad.

 

Car
Mae parcio am ddim ym Maes Parcio Glyndŵr, sydd ychydig funudau ar gerdded i ffwrdd. Mae mannau parcio cyfyngedig ac un man parcio hygyrchedd o flaen yr adeilad.

 

Trên
Mae gorsaf drenau Cwmbrân 10 munud i ffwrdd ar gerdded.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r tudalennau isod.