CWESTIYNAU CYFFREDIN AR ÔL Y CYFYNGIADAU SYMUD

Dyma restr o Gwestiynau Cyffredin a allai fod o gymorth cyn i chi ymweld â ni ar ôl y cyfyngiadau symud. Mae’r staff wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn paratoi gan gadw at gyngor Llywodraeth Cymru a blaenoriaethu diogelwch ein cwsmeriaid a’n staff. Rydym yn dal ati i ddatblygu ein platfformau ar-lein fel y gallwch barhau i gadw mewn cysylltiad â ni hyd yn oed os ydych yn hunanynysu neu’n gwarchod. Bydd rhai o’r gwasanaethau a gynigiwn yn newid a dymunwn ddiolch i chi ymlaen llaw am eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

 

Pryd ydych chi ar agor?

  • Byddwn ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9.30am – 4pm.
  • Mae ein Caffi ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9.30am – 3.30pm.
  • (Ar gau ddydd Llun Gŵyl y Banc)

A fydd gennych system fwcio?

  • Nid oes angen i chi fwcio cyn ymweld â’r ganolfan.
  • Byddwn yn cyfyngu ar nifer y bobl sydd yn yr adeilad os oes angen, ac yn gofyn i chi aros wrth y drws pan fyddwch yn cyrraedd.
  • Byddwn yn gofyn i chi gofrestru ar gyfer Tracio ac Olrhain wrth ddod i mewn i’r adeilad.

Ydy’r orielau a’r siop grefftau ar agor?

  • Bydd y ddwy Oriel a’r Siop Grefftau ar agor fel arfer, yn arddangos ac yn gwerthu gwaith celf. Mae gennym ddetholiad cyfyngedig o eitemau yn ein siop ar-lein hefyd.
  • Gofynnir i chi beidio â chyffwrdd unrhyw eitemau sy’n cael eu harddangos ac os hoffech edrych ar eitem yn fanwl neu ei phrynu, gofynnwch i aelod o’r staff.

A fydd y Caffi ar agor?

  • Bydd ein Caffi ar agor gyda chapasiti cyfyngedig, bwydlen gyfyngedig a rhai dewisiadau tecawê. Yr oriau agor fydd 9.30am – 2.00pm.
  • Bydd rhai seddau ar gael tu allan hefyd.
  • Gofynnir i chi beidio â chyffwrdd unrhyw eitemau sy’n cael eu harddangos ac os hoffech brynu eitem, gofynnwch i aelod o’r staff.

Ydw i’n gallu defnyddio arian parod?

  • Rydyn ni’n dal i dderbyn taliadau ag arian parod ond awgrymwn eich bod yn defnyddio taliadau â cherdyn a digyffwrdd ble bo’n bosibl.

Alla i hurio ystafell?

  • Mae ein hystafelloedd ar gael i’w hurio gyda chapasiti cyfyngedig. Anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01633 483321 fel y gallwn drafod eich anghenion.
  • Awgrymwn eich bod yn bwcio dyddiad/amser i alw heibio i weld yr ystafelloedd sydd ar gael cyn bwcio, i sicrhau eu bod yn addas i chi.
  • Polisi canslo: Rhybudd o 2 wythnos – rhaid talu ½, rhybudd o 1 wythnos neu lai – rhaid talu’n llawn.

Pryd fyddwch chi’n rhedeg Gweithdai a sut fyddwch chi’n sicrhau diogelwch?

  • Bydd ein Gweithdai i Bobl Ifanc a Theuluoedd yn rhedeg yn ystod gwyliau’r ysgol.
  • Rhaid bwcio ymlaen llaw neu ni fyddwch yn cael mynediad.
  • Bydd digon o lanweithydd dwylo ar gael, ynghyd â’r sinciau ar gyfer golchi dwylo yn y Gweithdy. Bydd yr holl offer, byrddau a’r cadeiriau yn cael eu glanhau cyn ac ar ôl eu defnyddio. Gofynnir i blant ddod â’u masgiau gyda nhw.
  • Byddwn yn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol yn ystod ein gweithdai. Os bydd eich plentyn yn cael hyn yn anodd yn ystod eu hamser yma, efallai bydd rhaid i ni’ch ffonio i’w casglu’n gynnar.
  • Rydyn ni’n adeilad cyhoeddus ac mae ein cyfleusterau toiled ar y llawr gwaelod. Bydd plant yn cael eu hebrwng i’r cyfleusterau hyn gan diwtor a gofynnir iddyn nhw sicrhau eu bod wedi golchi eu dwylo.
  • Os yw eich plentyn yn teimlo’n anhwylus neu mae wedi cysylltu ag unrhyw un arall sy’n teimlo’n anhwylus, gofynnwn i chi beidio â bwcio’r plentyn yn ein gweithdai. Mae croeso i chi fwcio ar ddyddiad arall.

Sut fyddwch chi’n sicrhau bod LGAC yn ddiogel i ymwelwyr o ran Covid?

  • Cyn dod yma, rydym yn eich cynghori i wneud prawf llif unffordd.
  • Bydd man diheintio dwylo ger y drws ffrynt i’w ddefnyddio cyn mynd o gwmpas prif rannau’r adeilad. Bydd peiriannau diheintio dwylo ar gael mewn rhannau eraill o’r adeilad hefyd.
  • Byddwn yn gofyn i chi gofrestru yn y dderbynfa gan roi eich enw, rhif ffôn a’ch amser cyrraedd. Gofynnir i chi allgofnodi hefyd, gan roi eich amser gadael. Mae hyn yn rhan o system Tracio ac Olrhain y GIG a fydd yn helpu i atal lledaeniad Covid-19. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu, caiff ei chadw’n ddiogel a’i dileu ar ôl 21 diwrnod yn unol â chanllawiau swyddogol Llywodraeth Cymru.
  • Bydd sgrin warchod wrth y ddesg flaen a chownter y caffi.
  • Rhaid gwisgo masg wyneb y tu mewn i’r adeilad. Nid oes angen gwneud hyn pan fyddwch yn bwyta/yfed yn y Caffi.
  • Byddwn yn creu system unffordd ar gyfer ymweld â’n siop grefftau, yr orielau a’r toiledau. Bydd sticeri llawr a saethau drwy’r holl adeilad i’ch helpu i fynd i’r cyfeiriad iawn.
  • Bydd rheolau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle – Cadwch bellter o 2 fetr rhyngoch chi a chwsmeriaid eraill a’r staff. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros a/neu os gofynnir i chi symud i fan arall os oes angen.
  • Ar ddiwedd bob diwrnod byddwn yn glanhau’r adeilad yn drylwyr. Helpwch ni i gadw’n hadeilad yn lân trwy beidio â chyffwrdd unrhyw eitemau sy’n cael eu harddangos neu bethau eraill fel rhan flaen y cypyrddau arddangos.
  • Byddwn wedi gosod amrywiaeth o arwyddion dwyieithog yn rhoi gwybod i’n cwsmeriaid am y newidiadau hyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01633 483321 i siarad ag aelod staff.

Beth os ydw i’n teimlo’n anhwylus?

  • Gofynnwn i chi beidio ag ymweld â’n hadeilad os ydych yn teimlo’n anhwylus.
  • Bydd ystafell ynysu yn ein horiel fach ar gyfer unrhyw gwsmeriaid sy’n dangos unrhyw symptomau sydyn o Covid-19. Mae hyn er mwyn diogelu cwsmeriaid ac aelodau staff nes i ni drefnu cymorth.
  • Os ydych wedi dod i gysylltiad ag unrhyw un sy’n dangos unrhyw symptomau Covid-19 neu sydd wedi cael prawf positif, hyd yn oed os nad oes gennych symptomau, peidiwch ag ymweld â’n hadeiladau. Dylech wneud prawf llif unffordd a hunanynysu yn unol â chyfarwyddyd y GIG a Llywodraeth Cymru.

Beth os daw cyfyngiadau symud newydd neu leol?

  • Os digwydd hyn, efallai bydd rhaid i ni gau eto ar fyr rybudd. Byddwn yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi bwcio gweithdai, hurio ystafelloedd ac ati i roi gwybod iddyn nhw.
  • Rydym yn diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan a’n rhestr bostio’n rheolaidd gyda gwybodaeth am y pethau sy’n mynd ymlaen, gweithgareddau celf a chrefft, y gwaith celf sydd ar werth, a mwy. Argymhellwn eich bod yn mynd i’n gwefan, dilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu’n ymuno â’n rhestr bostio fel y byddwch yn cael eich diweddaru ar unrhyw newidiadau neu wybodaeth newydd.