Gweithgareddau Hanner Tymor

GWEITHGAREDDAU HANNER TYMOR
28, 29 MAI

 

Yn ystod hanner tymor mis Mai, byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau creadigol i oedolion, pobl ifanc, teuluoedd a phlant sy’n 5 neu’n hŷn

SESIWN GREU I BOBL IFANC
DDYDD MAWRTH 28 MAI, 10YB-12YP

 

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 28 Mai ar gyfer ‘Fishing-boat Bobbing Sea’, sef Sesiwn Greu am ddim i bobl ifanc 8-13 oed lle byddwn yn darlunio morluniau collage seiliedig ar linellau cyntaf disgrifiadol Dan y Wenallt gan Dylan Thomas.

 

Cynhelir y sesiwn hon rhwng 10yb-12yp

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

 

Os hoffech gefnogi Llantarnam Grange, gwnewch rodd, yma neu mewn person.

CYFLWYNIAD i DDARLUNIO
DDYDD MAWRTH 28 MAI, 1-3YP

 

Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth 28 Mai 1-3pm ar gyfer Cyflwyniad i Ddarlunio, lle byddwn yn defnyddio paragraffau agoriadol Dan y Wenallt gan Dylan Thomas fel ysbrydoliaeth ar gyfer darluniau dyfrlliw ac inc.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

 

Os hoffech gefnogi Llantarnam Grange, gwnewch rodd, yma neu mewn person.

SESIWN GWNEUD BATHODYNNAU GALW HEIBIO
DDYDD MERCHER 29 MAI, 10YB-12YP, 1-3YP

 

Ymunwch â ni ar ddydd Mercher 29 Mai, 10am-12pm ac 1-3pm ar gyfer sesiwn galw heibio am ddim lle byddwch yn gwneud bathodynnau gyda’r artist greawdwr Sadia Pineda Hameed yn ein horielau i lawr y grisiau.

 

Wedi’i hysbrydoli gan fathodynnau o symudiadau heddwch a llafur yng Nghymru a’r byd, mae Sadia yn eich gwahodd i greu eich bathodyn eich hun gyda symbolau a negeseuon o gariad ac undod.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.

 

Mae’r hwn yn rhan o waith parhaus Sadia ar gyfer Perspective(s) lle mae’n ymchwilio i enydau o undod rhyngwladol i ddychmygu arwydd o ofal, cydweithredu a chymuned heddiw ac yn y dyfodol gyda thir gwrthdrefedigaethol a brwydrau llafur.

 

Mae Perspective(s) yn gydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru. Mae Sadia yn gweithio gyda ni a Phwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru i greu gwaith ac ymyriadau newydd.