Half Term Activities

GWEITHGAREDDAU HANNER TYMOR
29, 30 HYDREF

 

Yn ystod hanner tymor mis Hydref, byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau creadigol i oedolion, pobl ifanc, teuluoedd a phlant sy’n 5 neu’n hŷn

GWNEUD GOFALGAR
MAWRTH 29 CHWEFROR, 10YB-12YP and 1-3YP

 

Ymunwch â ni ddydd Mawrth 29 Chwefror 10yb-12yp a 1 – 3yp, am weithgaredd ymwybyddiaeth ofalgar creadigol ‒ sesiwn galw heibio am ddim yn ein horielau ar y llawr gwaelod.

 

Dewch yn eich blaen i ymlacio a gwneud wrth eich pwysau mewn man digyffro, hamddenol.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser.

 

Darperir yr holl ddeunyddiau.

 

Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy./h4>

Ariennir y sesiynau hyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

GWNEUD BANERI MAWR
DDYDD MERCHER 30 HYDREF 10AM-12PM and 1-3PM

 

Ymunwch â’r artist Ffion Williams ddydd Mercher 30 Hydref 10am-12pm ac 1-3pm i greu baneri mawr â chollage. Rhowch gynnig ar haenu testun a delweddau i wneud baner amdanoch chi.

 

Mae gwaith Ffion Cymraeg Ddrwg, yn cael ei arddangos ar hyn o bryd yn ein Horiel Bwrdd Posteri. Cewch fwy o wybodaeth yma.

 

Mae’r gweithgaredd hwn ar gyfer yr hen a’r ifanc! Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion! Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, fellly dewiswch un slot wrth fwcio.

 

Cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 neu anfonwch e-bost at [email protected] i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.