Trans Iberia

ORIEL 2
TRANS IBERIA – JOHN SELWAY
31 MAI – 16 AWST

 

Mae Trans Iberia yn gorff o waith gan yr artist John Selway sy’n pontio 50 mlynedd, gan gofnodi ei deithiau niferus ledled Sbaen a Phortiwgal. Arddangoswyd y gyfres hon yn Llantarnam Grange am y tro cyntaf yn 2015, ac mae wedi cael ei harddangos i fyny’r grisiau yn ein Hystafell Selway ers 2021.

 

Mae’r arddangosfa hon yn dod â’r casgliad i lawr y grisiau i Oriel 2 a dyma’r cyfle olaf i weld y gwaith hwn cyn iddo fynd ar daith.

Gan grwydro ar draws tymhorau a gwledydd, o ddiwedd y gaeaf yng Ngwlad y Basg, i draethau arfordir Môr yr Iwerydd ym Mhortiwgal, ac i wastadeddau uchel yr Alpujarra, mae’r gwaith hwn yn archwilio natur anwadal nifer o’r teithiau a’r gwahanol ymatebion a greodd John ar wahanol gamau o’i oes.

 

Ganwyd John Selway yn 1938 i rieni Cymreig yn Askern, tref fechan lofaol yn ne Swydd Gaerefrog. Ar ôl i’w rieni ddychwelyd i’w mamwlad yn 1940, bu John yn byw ac yn gweithio yn Abertyleri. Rhwng 1953 a 1957, astudiodd yng Ngholeg Celf Casnewydd lle cafodd ei addysgu gan Tom Rathmell a lle dechreuodd ymddiddori mewn haniaeth.

 

Mae gwaith John wedi cael ei arddangos yn helaeth, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac mae’n rhan o gasgliadau Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Cyngor y Celfyddydau (Lloegr), Oriel Gelf Johannesburg (De Affrica), ynghyd â nifer o orielau cyhoeddus eraill ar draws Cymru a Lloegr.

 

Bu farw John Selway yn 2017, gan adael casgliad eang o gelfwaith yn pontio 7 degawd o greadigrwydd. Ers hynny, mae ei deulu wedi cydweithio gyda Llantarnam Grange i barhau i rannu gwaith John gyda’r cyhoedd.

 

Cynhelir digwyddiad agor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn 31 Mai, 12-2pm, a bydd yr arddangosfa’n rhedeg tan 16 Awst 2025.