Gweithgareddau yr Haf: Wythnos 2

GWEITHGAREDDAU CREADIGOL YR HAF
22 GORFFENNAF – 27 AWST

 

Yr haf hwn rydym yn rhedeg 6 wythnos o weithgareddau creadigol i bobl o bob oedran a gallu! Mae pob wythnos yn canolbwyntio ar ddeunydd, thema, neu ffordd o wneud benodol.

 

Mae croeso i deuluoedd, oedolion, ac unigolion. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o 5+ i 8+ felly gwiriwch eich sesiwn cyn bwcio. Rhaid i blant fod dan oruchwyliaeth bob amser.

 

Mae’r lleoedd yn yr holl sesiynau Dydd Mawrth yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw. Noder bod sesiynau’r bore a’r prynhawn yr un peth, felly dewiswch un slot wrth fwcio.

 

Bwciwch eich lle drwy Eventbrite isod.

WYTHNOS 2: COLLAGE

 

Archwiliwch gollage a ysbrydolir gan osodiad ymgolli Bridie Doyle-Roberts, Sbectrwm o’r Golwg

 

Dydd Mawrth 28 Gorffennaf, 10yb-12yb a 1-3yp

 

Collage Cyffyrddol – Ymunwch â Bridie i greu collage synhwyraidd a chyffyrddol sy’n ddiddorol cyffwrdd ag ef, ynghyd ag edrych arno, gan helpu pobl â nam ar y golwg i brofi celf.

 

Rhaid bod plant yn 8 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Ystafell Ddysgu* – Bwciwch eich lle drwy Eventbrite yma.

Dydd Mercher 29 Gorffennaf, 10yb-12yb

 

Cadeiriau Miniatur – Defnyddiwch gollage i greu darluniau o gadeiriau miniatur a ysbrydolir gan y dodrefn yng ngosodiad Bridie.

 

Rhaid bod plant yn 5 oed+ ac yn cael eu goruchwylio bob amser

 

Oriel 2 – Galw heibio

*Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.

 

Os hoffech gael gwybod mwy ynglŷn â’n hadeilad a mynediad, i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad, gweler ein gwybodaeth i ymwelwyr a’n Canllaw Mynediad.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â ni drwy e-bost yn hello@llantarnamgrange.com neu ffoniwch 01633 483321.