AR HYN O BRYD NID YDYM YN DERBYN CYNIGION ARDDANGOSFA

Cynigion Arddangosfa: Sut i Wneud Cais

Rydyn ni eisiau sicrhau bod ein proses ymgeisio a dewis ar gyfer arddangosfeydd yn glir ac yn syml fel y gall artistiaid, gwneuthurwyr a churaduron gysylltu â ni gyda’u syniadau a chael cyfle i fod yn rhan o’n Rhaglen Arddangosfeydd.

Mannau Arddangos

 

Mae gan Llantarnam Grange bedwar man arddangos. Rydym yn cynnal tua 4 arddangosfa’r flwyddyn ym mhob un o’r mannau hyn, ac maent yn rhedeg am 10-12 wythnos. Mae’r pedwar man oriel yn cael eu cydamseru, gan redeg am yr un hyd, ac mae Digwyddiadau Agor a rennir yn lansio’r holl arddangosfeydd newydd  ar yr un diwrnod.

 

Cynhelir ein Digwyddiadau Agor ar ddydd Sadwrn cyntaf yr arddangosfa rhwng 12-2pm. Rydym yn cynnig rhaglen o sgyrsiau artistiaid neu weithdai perthnasol ar y cyd â’n digwyddiadau agor yn ystod yr arddangosfeydd.

 

Mae Oriel 1 yn canolbwyntio ar artistiaid datblygol a sefydledig. Hon yw ein horiel fwyaf ac awgrymwn y man hwn ar gyfer artistiaid sydd â chyrff cyflawn o waith ac arddangosfeydd grŵp/ar y cyd.

 

Mae Oriel 2 yn fan celf cymunedol ac yn oriel ar yr un pryd: rhaid i’r rhan fwyaf o’r gwaith a ddangosir yma gael ei hongian ar wal gan fod y cyhoedd yn gallu ei ddefnyddio ar unrhyw adeg ac weithiau caiff ei ddefnyddio ar gyfer sesiynau ymgysylltu a digwyddiadau eraill.

 

Mae’r oriel yn ein Caffi yn ganolfan brysur a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o’r ymwelwyr i’r ganolfan. Mae’n fan bach ond yn fwyfwy cadarnhaol o ran ymgysylltu masnachol. Rhaid i’r gwaith a gymeradwyir ar gyfer y man hwn gael ei hongian ar wal.

 

Weithiau defnyddir Oriel y Cyntedd ar gyfer arddangosfeydd graddedigion/myfyrwyr ac yn aml mae’n estyniad i’n Siop Grefftau. Mae’n berffaith ar gyfer arddangosfeydd bach a gwaith sy’n hongian ar wal.

 

Prosiectau Allanol

Rydym yn comisiynu artistiaid trwy grantiau prosiect penodol i greu gwaith ar gyfer ein Horiel Bwrdd Posteri. Os ydych yn meddwl y gallai eich gwaith fod yn addas, byddem yn croesawu sgyrsiau a chynigion.

Rydym hefyd yn croesawu cydweithrediadau y tu allan i’n hadeilad, mewn mannau cyhoeddus neu leoliadau eraill. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol i drafod syniadau ar gyfer prosiectau allanol.

 

Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i stocio gwaith yn ein Siop Grefftau. Os hoffech gael mwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Arddangosfeydd savanna.dumelow@llantarnamgrange.com

Sut i ymgeisio

 

Anogir ymgeiswyr i gyflwyno trwy’r ffurflen ar-lein hon

(Mae ffurflenni papur ar gael ar gais).

 

Ar gyfer eich cais, bydd angen:

  • Gwybodaeth amdanoch chi – eich enw, rhagenwau, e-bost, ffôn, gwefan a chyfryngau cymdeithasol proffesiynol

  • Datganiad Artist – Mwyafswm o 200 o eiriau amdanoch chi a’ch ymarfer

Am awgrymiadau ar sut i ysgrifennu Datganiad Artist, ewch yma

  • Cynnig Arddangos – Mwyafswm o 600 o eiriau ynglŷn â’ch prosiect, themâu, eich syniad ar gyfer y man arddangos, a oes diddordeb gennych mewn gwaith ymgysylltu, ym mha ffyrdd byddech yn elwa ar y profiad hwn ac a oes angen cymorth/mentora arnoch

Cyflwynwch ar ffurf doc, docx, neu PDF

  • Delweddau – Mwyafswm o 5 delwedd, neu os ydych yn ymgeisio am arddangosfa grŵp, cynhwyswch 2 ddelwedd i bob cyfranogwr. Math: Jpeg, hyd at 1500 picsel, hyd at 1MB. Rhowch enw’r delweddau, teitl y gwaith, a’ch enw.

Cyswllt

 

Rydym bob amser yn falch o drafod cynigion ac yn eich annog i gysylltu â ni cyn llenwi ffurflen gais.

 

Os byddai’n well gennych ymgeisio mewn ffordd wahanol, rydym yn agored i hyn. Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion hygyrchedd sydd gennych. Dylai hon fod yn broses hawdd, ac rydym yma i’ch cefnogi.

 

Ein nod yw creu amgylchedd lle mae gofal, cymorth a lles wrth galon ein rhaglennu a’n prosesau. Os oes angen unrhyw gymorth neu eglurhad ychwanegol arnoch, anfonwch e-bost at ein Swyddog Arddangosfeydd, Savanna Dumelow, yn savanna.dumelow@llantarnamgrange.com, bydd hi’n hapus i ateb unrhyw gwestiynau.