CYLLIDWYR
Rydym bob amser yn cymryd ein cyfrifoldebau fel derbynnydd arian cyhoeddus o ddifrif a heb y cymorth amhrisiadwy hwn ni fyddem yn gallu cyflwyno elfennau sylweddol o’n gwaith pwysig. Ein nod yw rhoi gwerth da iawn am arian i’n cyllidwyr, gan gyflawni eu nodau a’u hamcanion – ac yn aml iawn byddwn yn rhagori ar eu disgwyliadau.
Cyllid Craidd
Mae’r rhan fwyaf o’n hincwm anghyfyngedig yn cynnwys ein Cyllid Amlflwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru – y ni yw’r unig dderbynnydd yn Nhorfaen. Mae gennym Gontract Gwasanaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ac rydym wrth ein bodd am ein bod wedi derbyn grant cyllid craidd 2 flynedd gan Garfield Weston ar gyfer 2026-28.
Rydym yn derbyn cyllid anghyfyngedig blynyddol gan Gyngor Cymuned Cwmbrân a Chyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon, ynghyd â chyflwyno ceisiadau i Gyngor Tref Blaenafon, Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl a Chyngor Cymuned Henllys.

Cyllidwyr Prosiect Presennol
Colwinston Charitable Trust – 60: A Year Long Celebration, Celebrating Art in Cwmbran, 2026
Oakdale Trust – 60th Birthday Programme 2026-27
Cwmbran Community Council – 60th Birthday Programme, Cwmbran Colouring Book 2026-27
National Lottery Community Fund – Be Kind to Your Mind project April 2026-27

Cyllid Prosiect dros y 5 Mlynedd Diwethaf
