GWNEUD GOFALGAR
BOB DYDD MERCHER, 10YB-12YP
O ddydd Mercher 5 Mawrth – 9 Ebrill byddwn yn rhedeg sesiynau Gwneud Gofalgar o 10yb-12yp yn ein horielau ar y llawr gwaelod.
Dewch yn eich blaen i ymlacio a gwneud wrth eich pwysau mewn man digyffro, hamddenol.
Mae’r gweithgareddau hyn ar gyfer oedolion a phobl ifanc 16+ sydd eisiau archwilio’u creadigrwydd mewn lleoliad artistig a chyfforddus.
Darperir yr holl ddeunyddiau.
Mae croeso i chi alw heibio am 10 munud, neu i aros am awr neu ddwy.
Ariennir y sesiynau hyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

