Gwneud Torch Wahanol

GWNEUD TORCH WAHANOL
28 TACHWEDD
10YB-12YP

 

Gwnewch dorch Nadoligaidd unigryw trwy ailddefnyddio manion bethau sydd gennych o gwmpas y tŷ! Boed teganau wedi torri, gemwaith neu hen addurniadau rydych yn eu clirio, dewch ag unrhyw ddeunyddiau yr hoffech eu defnyddio gyda chi.

 

Byddwn ninnau’n darparu’r cylchoedd i adeiladu eich creadigaethau, ynghyd â glud, tâp, a deunyddiau ychwanegol.

 

A hefyd, bydd ein stondinau Clirio Allan Creadigol yn gwerthu deunyddiau celf a chrefft, i lawr y grisiau yn Oriel 1 os oes angen chwilota am ddarnau ychwanegol arnoch. Cewch fwy o wybodaeth yma.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw.

 

Bwciwch le drwy Eventbrite yma.

 

Pris y pen: £25 + ffi bwcio

 

Mae’r Ystafell Ddysgu ar ein llawr cyntaf. Yn anffodus, nid oes gennym fynediad i’r llawr hwn ar gyfer pobl anabl.