Nod ein rhaglen o arddangoswyr ac arddangosfeydd yw cefnogi ac ysbrydoli artistiaid a chynulleidfaoedd, rhannu gwaith artistiaid a gwneuthurwyr o bob cwr o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys artistiaid creadigol arweiniol a rhai newydd, gyda chyfleoedd penodol i feithrin lleisiau newydd.

 

Gyda’r gwaith wedi ei rannu drwy ein hadeilad, yn ein horielau, y cyntedd, y caffi ac ystafelloedd cyfarfod, ein nod yw creu rhaglen amrywiol sy’n dathlu celfyddydau a chrefftau gweledol.

 

Mae gennym hefyd raglen o Arddangosfeydd Teithiol gydag orielau partner, a Chasgliad Parhaol, yr ydym wedi bod yn ychwanegu ato am 55 o flynyddoedd.

Presennol

Celf yn y Caffi

Arddangosfa gan yr artist Mary James, yn archwilio’r corff dynol trwy fywlunio, paent olew a chŵyr oer. Gan ddechrau drwy arsylwi’n ofalus, mae ei gwaith yn datblygu’n ddarluniau haenog, mynegiannol sy’n symud rhwng ffigwr a haniaeth.

 

Trwy bylu’r ymylon, newid tonau’r croen a chuddio’r corff yn rhannol, mae Mary yn eich gwahodd i fyfyrio ar sut rydym yn canfod y ffigwr noeth a beth gall hyn ei ddangos am hunaniaeth, bregusrwydd a chanfyddiad.

Yr Oriel Bwrdd Posteri

Gorffennol

Bydd tudalen Archif o’n harddangosfeydd yn y gorffennol yn dod yn fuan.