ORIEL 2
WINTER SUN
12 TACHWEDD – 21 IONAWR

 

Y gaeaf hwn, bydd Llantarnam Grange yn arddangos casgliad o artistiaid a gwneuthurwyr cyfoes y dylanwadwyd arnynt gan harddwch digyfnewid yr estheteg a chrefftwriaeth Japaneaidd.

 

Mae i grefftau Japaneaidd hanes hir, cyfoethog, gyda thechnegau a sgiliau’n cael eu trosglwyddo o’r un genhedlaeth i’r llall, a rhai yn dyddio nôl cyn belled â’r cyfnod Heian (794-1185). Gydag amser, daeth gwrthrychau o waith llaw, a grëwyd o reidrwydd ar gyfer bywyd bob dydd yn wreiddiol, yn fwyfwy esthetig. Maent yn adlewyrchu ac yn dathlu medr a dawn eithriadol y shokunin (crefftwyr) wrth iddynt eu creu. Byddai llawer o’r shokunin yn casglu eu deunyddiau ym misoedd yr haf wrth ffermio, gan ddefnyddio beth oedd ar gael iddynt yn yr amgylchedd o’u cwmpas. Ac yna, yn ystod y gaeaf, pan fyddai’r tymheredd yn plymio a’r eira’n disgyn, byddent yn bwrw ati i greu eu campweithiau.

 

Yn cynnwys gwaith gan: Akiko Ban – Mystic Forms; Anne McKenzie; Francesca Kay; Kaleidoscope Textiles; Mari Wirth; Matthew Jones Ceramics; Matthew Lintott; a mwy.

 

Bydd agoriad yn yr oriel Ddydd Sadwrn 12 Tachwedd, 12–2yp, a bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 21 Ionawr 2023.

Mari Wirth – Papercut