Arddangosfa Agored y Gaeaf

ARDDANGOSFA AGORED Y GAEAF

GALWAD AM GELF YN NHORFAEN!

 

Mae Llantarnam Grange yn estyn gwahoddiad i artistiaid sy’n byw yn Nhorfaen i gyflwyno gwaith ar gyfer arddangosfa agored yn ein caffi.

 

Cynhelir yr arddangosfa rhwng 6 Rhagfyr 2025 – 28 Chwefror 2026.

 

Bydd yr arddangosfa yn agor ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr, 12-2yp

 

Nid oes ffi fynediad, thema, na chyfyngiadau o ran oedran, gallu, neu brofiad.

 

CYMHWYSEDD

 

– Rhaid bod yr artistiaid yn byw yn Nhorfaen
– Rhaid bod y gwaith mewn 2D, a heb fod yn fwy nag A3 (29.7cm x 42cm), a heb fod yn ddyfnach na 15cm
– Rhai bod modd hongian y gwaith ar wal

 

I GYFLWYNO MAE’N RHAID I CHI:

 

– Ddarllen y Canllawiau
– Llenwi’r ffurflen gais
– Gallu cyflwyno eich gwaith ddydd Gwener 21 neu ddydd Sadwrn 22 Tachwedd, rhwng 9.30am – 3.30pm

 

Darllenwch y Canllawiau llawn yma

Gwnewch gais yma

 

Gobeithiwn ddangos cymaint o’r celfwaith ag y gallwn, ond peidiwch ag oedi gan fod y lle yn gyfyngedig!

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn hello@llantarnamgrange.com neu ffoniwch ni a 01633 483321

 

Edrychwn ymlaen at weld eich gwaith!