Criw Celf 2023

CRIW CELF 2023
IONAWR – MAI 2023

 

DYDDIAD CAU 15 RHAGFYR, 12YP

 

Cofrestrwch ar ein rhaglen Criw Celf 2023.

 

Bydd rhaglen gynradd ac uwchradd 2022-2023 eleni yn dechrau ym mis Ionawr 2023. Os hoffech archwilio eich creadigrwydd, ac os ydych yn byw yn y de-ddwyrain ac ym mlynyddoedd 5 – 9 yn yr ysgol, gallwch wneud cais. Mae’n gyfle gwych i bobl ifanc creadigol sydd â gwir ddiddordeb a brwdfrydedd dros y celfyddydau.

 

Cynhelir y gyfres hon o weithdai ar ddau ddydd Sadwrn bob mis rhwng Ionawr – Mai 2023, a bydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio technegau, cyfryngau a ffyrdd o weithio newydd dan arweiniad artistiaid a gwneuthurwyr proffesiynol.

 

Byddwn yn cynnal dau weithdy blas hanner diwrnod ar Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr, gyda’r darlunydd Jack Skivens Jack Skivens a fydd yn arbrofi gyda gwneud marciau a darlunio ag inc. Cynhelir y sesiynau rhwng 10am-12pm neu 1-3pm

 

Dewiswch eich slot bore neu brynhawn a llenwi’r ffurflen gais isod, neu cysylltwch â’r dderbynfa ar 01633 483321 i fwcio eich lle.

 

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig a rhaid bwcio ymlaen llaw ar gyfer y rhaglen a’r sesiwn flas.

 

I YMGEISIO, LLENWCH Y FFURFLEN HON

 

Ein dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12yp ar 15 Rhagfyr 2022

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Swyddog Addysg, Louise, yn : [email protected] neu rhowch alwad i ni ar 01633 483321*

 

*Ar hyn o bryd rydyn ni’n cael problemau parhaus gyda’n cysylltiad rhyngrwyd felly efallai bydd oedi wrth ateb e-byst. Os oes gennych ymholiad brys, ffoniwch ni ar 01633 483321