Underwater Utopia

ORIEL 1
UNDERWATER UTOPIA – GOLD MARIA AKANBI
12 TACHWEDD – 21 IONAWR

 

Mae’r arddangosfa solo hon gan yr artist amlddisgyblaethol, Gold Maria Akanbi, yn archwilio dyfnderoedd y cefnfor, gan ddod â byd naturiol cudd i’r wyneb trwy gasgliad o decstilau, cerfluniau, paentiadau a sain.

 

Daeth ysbrydoliaeth Gold o Ffos Marina yn y Môr Tawel, sydd bron 7 milltir o dan wyneb y Ddaear ar ei dyfnaf – cafodd ei tharo gan ba mor anodd oedd darganfod ac archwilio’r dyfnderoedd hyn, sy’n golygu mai dyma’r peth agosaf at iwtopia ar gyfer y byd naturiol.

Oherwydd eu diddordeb yn y môr, eu hofnau am y newid yn lefelau’r môr, a’r dinistr parhaus i fywyd morol, mae Gold wedi ceisio creu ei hiwtopia danddwr bersonol mewn casgliad o waith sy’n cynnwys gosodiadau sain yn cynrychioli anifeiliaid mewn perygl a phatrymau tywydd peryglus, dillad sy’n gweithredu fel duwdodau newydd ar ffurf defnydd, a phelenni cerfluniol o glai cerfiedig.

 

Gyda’r cyfryw amrywiaeth o ddefnyddiau, mae Gold yn tynnu ar unigedd ac ysgogiad synhwyraidd, diogelu a phŵer, ynghyd â rhyddfreiniau cymdeithasol a phersonol. Mae ei diddordeb mewn elfennau hanesyddol, ysbrydol ac arallfydol yn dod i’r amlwg drwy ei hymchwil i ysbryd yr Yorùbá Òrìṣà, a anfonwyd i’n helpu i ffynnu ar y Ddaear; i’r cysyniad o bŵer ym Maen yr Athronydd; ac i’r defnydd o rwnau yn yr henfyd.

 

Mae ymarfer Gold yn cwmpasu mytholeg, cloddfeydd archaeolegol, ysbrydolrwydd, a’r anhraethadwy, ac felly mae ei chreadigaethau’n haniaethau sy’n ysgogi’r synhwyrau ac yn ehangu i ffurfio bydoedd newydd.

 

Bydd agoriad yn yr oriel Ddydd Sadwrn 12 Tachwedd, 12–2yp, a bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan 21 Ionawr 2023.